Siaradoch, Gwrandawsom

Rydym yn deall pa mor bwysig yw hi i bobl dderbyn gwybodaeth am sut mae eu cyfraniad a'u hymgysylltiad wedi helpu i lunio'r hyn sy'n digwydd yng Ngwent. Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am sut mae cyfrannu ac ymgysylltu wedi helpu i lunio pethau yng Ngwent.

Strategaeth VAWDASV Gwent

Cyhoeddwyd Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Gwent ym mis Mai 2018. Fe wnaeth yr adborth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y strategaeth helpu i lunio a diwygio'r strategaeth i sicrhau bod lleisiau'r rhai y rhai sy’n dioddef Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael eu clywed a'u rhannu. Mae ymatebion ysgrifenedig ac ymatebion gan grwpiau ffocws wedi'u cydblethu drwy'r strategaeth i helpu'r darllenwyr i ddeall pam ei bod yn bwysig sicrhau bod yr holl flaenoriaethau strategol yn cael eu bodloni.

Ymgynghoriad ar Ddioddefwyr Sy'n Ddynion

Nodwyd yn ystod ymgynghoriad Strategaeth VAWDASV Gwent bod bwlch mewn gwybodaeth ynghylch profiadau dynion. Er mwyn mynd i'r afael â hyn dechreuwyd ymgynghoriad yn benodol i ddynion ym mis Rhagfyr 2018 a pharhaodd hyd ddechrau 2019. Yn dilyn holiadur a grŵp ffocws gofynnodd y dynion dan sylw am fwy o gyfleoedd i gyfarfod a bydd hyn yn parhau yn 2019. Bydd mwy o wybodaeth am sut mae hyn wedi dylanwadu ar Went ar gael yn fuan.