Rhoi'r Ddeddf Galluedd Meddyliol ar Waith (Oedolion) - (10/07/2025)
Manylion y Cwrs
Wyneb y Wyneb: Lleoliad: The Oak Boardroom, Mamhilad House, Mamhilad Park Estate, Pontypool, NP4 0HZ
Rhiannon Mainwaring
Oedolion
Nod y cwrs hanner diwrnod hwn yw datblygu dealltwriaeth ymarferwyr sy'n gweithio gydag oedolion o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a sut i gymhwyso'r ddeddfwriaeth i'w harferion diogelu.
Bydd y sesiwn yn cynorthwyo ymarferwyr sy'n gweithio gydag oedolion i ddod yn fwy ymwybodol o'r ystyriaethau risg, yr opsiynau cymorth a'r canllawiau ar gyfer arferion gorau i alluogi ymarferwyr i ymateb yn effeithiol ac yn gyfreithlon.
Cynulleidfa darged:
Bydd yn sesiwn ddilynol a fydd yn ddefnyddiol i ymarferwyr aml-asiantaeth sydd wedi mynychu hyfforddiant Grŵp B neu Grŵp C, ac nad ydyn nhw wedi mynychu hyfforddiant Deddf Galluedd Meddyliol o'r blaen. Mae'r sesiwn hon yn debygol o fod yn rhy syml ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol cymwysedig/profiadol neu gyfwerth, fodd bynnag, gall ymarferwyr cofrestredig newydd gymhwyso weld y sesiwn hon yn fuddiol.
Deilliannau dysgu:
- Teimlo'n hyderus i roi'r egwyddorion allweddol Galluedd Meddyliol ar waith, gan ddechrau gyda hawl person i wneud ei benderfyniadau ei hun.
- Ailedrych ar ganiatâd i gydnabod pryd mae angen asesiad galluedd.
- Archwilio’r 3 cham yn y broses asesu galluedd a sut i ddarparu tystiolaeth a chofnodi'r asesiad.
- Cysylltu'r broses asesu ag arferion gwaith bob dydd, gan gynnwys edrych ar astudiaethau achos perthnasol.
- Dangos y broses Lles Pennaf a sut i'w chymhwyso yn ymarferol.
- Disgrifio rôl yr atwrnai sydd ag atwrneiaeth arhosol ar gyfer iechyd a lles.