Ymwybyddiaeth Ecsbloetiaeth Rhiwiol ar Blant (26/11/2024)
Manylion y Cwrs
Dydd(au):26/11/2024 ( 10:00 – 12:30 )
Darperir y Cwrs:
Microsoft Teams
Hwyluswyd Gan:
Lucy Faithfull Foundation
Defnyddiwr gwasanaeth:
Plant
Prosiect atal cam-drin plant yn rhywiol yw Stop It Now! Cymru, sy’n cael ei redeg gan Sefydliad Lucy Faithfull, elusen amddiffyn plant.
Ers 2008, rydym wedi bod yn gweithio ledled Cymru er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn rhag profiadau niweidiol yn ystod plentyndod drwy atal cam-drin plant yn rhywiol ac ecsbloetiaeth. Mae Stop It Now! Cymru’n gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn gwneud plant, pobl ifanc a chymunedau yn fwy diogel.
Ymwybyddiaeth Ecsbloetiaeth Rhiwiol ar Blant
Yn ystod y sesiwn hwn byddwch yn dysgu sut y gall ecsbloetiaeth rhywiol ar blant ddigwydd, beth yw’r risgiau i blant a phobl ifanc a pha gamau y gellir eu cymryd, gan ymgorffori themau sy’n dod i’r amlwg fel llinellau sirol ac ecsbloetiaeth troseddol.
Cynulleidfa Darged:
Anelir y sesiynau at ymarferwyr aml-asiantaethol sy'n ymwneud â gwaith uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd.