Y Ddeddf Galluedd Meddyliol i Ymarferwyr Plant a Phobl Ifanc (08/03/2024)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):08/03/2024  ( 09:3016:30 )
Darperir y Cwrs:

MS Teams

Hwyluswyd Gan:

Rhiannon Mainwaring

Defnyddiwr gwasanaeth:

Plant

Lle bynnag y bo'n bosibl, dylai plant hŷn (sy'n bodloni cymhwysedd Gillick a/neu sy'n 16+) gael eu cynorthwyo i gynrychioli eu barn, dymuniadau a theimladau (yn unol ag egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) mewn perthynas â diogelu a phrosesau diogelu. Wrth weithio i ddiogelu plant a phobl ifanc, mae meithrin perthnasoedd sy'n cynorthwyo ymddiriedaeth a chydberthynas yn bwysig iawn, sydd yn ei dro'n arwain at well canlyniadau diogelu. I ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant hŷn a'u teuluoedd, gall hyn ddod â chymhlethdod (o ran y gyfraith, dynameg teuluol ac asesu).

Mae Diogelu Gwent yn gobeithio y bydd y sesiynau hyn yn cynorthwyo ymarferwyr i gael eglurder a hyder ychwanegol wrth weithio gyda phlant hŷn sy'n cael eu hystyried yn 'gymwys', gan gynnwys llywio agweddau diogelu, cyfreithiol a theuluol.

Cynulleidfa darged: Ymarferwyr sy'n cynorthwyo a gweithio gyda phlant a phobl ifanc hŷn, gan gynnwys ymarferwyr o'r Gwasanaethau i Oedolion a allai ddod i gysylltiad â phlant hŷn.

Deilliannau dysgu:

  • Datblygu gwybodaeth am y Ddeddf Galluedd Meddyliol a sut mae hyn yn berthnasol yn ymarferol i bobl ifanc dan 18 oed (pobl ifanc 16 ac 17 oed, egwyddorion, lles pennaf, galluedd gan gynnwys galluedd sy'n amrywio a galluedd sy'n benodol i'r penderfyniad)
  • Ystyried deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol eraill yng nghyd-destun y Ddeddf Galluedd Meddyliol wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc.
  • Deall pwysigrwydd gofyn am ganiatâd, a beth sy'n cael ei ystyried wrth gynorthwyo plant a phobl ifanc.
  • Adnabod sut mae'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cadw pobl ifanc yn ddiogel, yn cynorthwyo gwneud penderfyniadau, a sut mae hyn yn cefnogi eu Hawliau Dynol.
  • Trafod achosion cyfreithiol ac achosion ymarfer i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol i gymhwyso'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn briodol wrth weithio gyda phobl ifanc.
  • Nodi rolau (rhieni/gofalwyr/gweithwyr proffesiynol/eiriolwyr) a sut maen nhw'n cyfrannu at broses y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
  • Nodi arferion da wrth gofnodi sgyrsiau a gwneud penderfyniadau.
Archebwch eich lle yma