Sylwi ar yr Arwyddion – Camfanteisio ar Oedolion (11/04/2024)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):11/07/2024  ( 10:0016:00 )
Darperir y Cwrs:

Microsoft Teams

Hwyluswyd Gan:

Heddlu Gwent

Defnyddiwr gwasanaeth:

Oedolion

Nod:

Cynyddu ymwybyddiaeth o sut i adnabod arwyddion o gamfanteisio, a sut i ymateb yn y ffordd fwyaf effeithiol â ffocws i gadw oedolion yn ddiogel.

Amcanion Hyfforddiant:- Erbyn diwedd y sesiwn yma, bydd cyfranogwyr yn medru:-

  • Diffinio oedolion sy’n agored i niwed, y gwahanol fathau, a chysylltiadau â chamfanteisio
  • Datblygu dealltwriaeth o’r broses o feithrin perthynas amhriodol wrth ganfanteisio ar oedolion, ‘trosedd mêts’ a ‘chogio’ a sut maent yn wahanol
  • Esbonio pwy sy’n debygol o gael ei dargedu a pha dactegau a ddefnyddir yn aml
  • Trafod yn feirniadol effaith camfanteisio – ar unwaith, tymor byr a hirdymor
  • Deall eich rolau a chyfrifoldebau mewn atal, adnabod, gostwng ac ymyrryd ar gamfanteisio.
  • Gwybod am wasanaethau cymorth lleol a sut i gyfeirio.

Cynulleidfa Darged: Pob ymarferydd aml-asiantaeth (wedi cofrestru/cael eu rheoleiddio neu beidio) yn cynnwys rolau gwirfoddol, sydd â chysylltiad rheolaidd gydag oedolion, plant ac aelodau’r cyhoedd yn eu rolau.

Archebwch eich lle yma