Sesiwn Ymwybyddiaeth o Dlodi (20/03/2024)
Manylion y Cwrs
Dydd(au):20/03/2024 ( 12:00 – 13:00 )
Darperir y Cwrs:
MS Teams
Hwyluswyd Gan:
Plant Yng Nghymru
Defnyddiwr gwasanaeth:
Plant
Mae tlodi yn gyffredin a'r ffigwr presennol, gochelgar yw bod 28% o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn byw mewn tlodi. O ystyried y niferoedd mawr hyn, bydd tlodi yn effeithio ar lawer o'r plant, pobl ifanc a'r teuluoedd rydych chi'n gweithio gyda nhw.
Bydd y sesiwn hwn yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o'u bywydau bob dydd a'r effaith emosiynol a chorfforol mae tlodi yn ei gael ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Gan dynnu ar brofiadau a lleisiau ymarferwyr a phobl ifanc, bydd y sesiwn hon sy'n awr o hyd yn cynnwys:
- Heriau a rhwystrau sy'n wynebu rhieni
- Heriau a rhwystrau sy'n wynebu plant a phobl ifanc
- Effaith ar iechyd emosiynol a meddyliol
- Ymddygiad a gwneud penderfyniadau
- Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer diogelu
Mae'r sesiynau hyn wedi'u hanelu at ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd.