Running Scared - Camfanteisio'n Drosedddol ar Blan (04/04/2025)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):04/04/2025  ( 10:0016:30 )
Darperir y Cwrs:

Wyneb yn wyneb yn Ty Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7PG

Hwyluswyd Gan:

Safer Together

Defnyddiwr gwasanaeth:

Plant

Nod y cwrs hwn yw darparu rhagor o wybodaeth am Gamfanteisio Troseddol ar Blant a chwalu rhai o'r mythau a'r camsyniadau sy'n atal ymarferwyr rhag sylwi ar yr arwyddion ac ymateb mewn ffordd sy'n sicrhau bod plant yn cael eu hystyried i fod yn ddioddefwyr cam-drin plant, camfanteisio a chaethwasiaeth fodern. Mae'r cwrs hwn yn archwilio modelau o Gamfanteisio Troseddol ar Blant, a'r hyn sy’n gyffredin rhwng camfanteisio troseddol a rhywiol, wrth archwilio effaith dylanwad y cyfryngau, oedolyneiddio a rhagfarn ar sail rhyw ar adnabod ac ymateb. Bydd y sesiwn hefyd yn ystyried yr offeryn asesu risg amlasiantaeth (Offeryn Mesur Camfanteisio ar Blant) sy’n cael ei ddefnyddio yng Ngwent ar hyn o bryd.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ac yn hanfodol i ymarferwyr o unrhyw sector sy'n mynychu Cyfarfodydd Strategaeth Camfanteisio amlasiantaeth yng Ngwent, a'r rhai sy'n ceisio ehangu eu gwybodaeth a'u hymwybyddiaeth o'r mater treiddiol hwn sy’n hynod o gymhleth. 

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i gynorthwyo ymarferwyr o sectorau statudol ac anstatudol sy'n gweithio mewn rolau sy'n wynebu'r cyhoedd gyda phlant, oedolion a theuluoedd.

Deilliannau dysgu:

  • Deall cyffredinolrwydd a graddfa Camfanteisio Troseddol ar Blant
  • Cael gwell dealltwriaeth o deipolegau Camfanteisio Troseddol ar Blant a methodoleg llinellau cyffuriau i mewn i’r Fwrdeistref Sirol
  • Adnabod y mythau a'r camsyniadau sy'n ymwneud â Chamfanteisio Troseddol ar Blant a sut gallen nhw effeithio ar ymateb diogelu effeithiol
  • Gweld Camfanteisio Troseddol ar Blant o safbwynt sy’n canolbwyntio’n fwy ar y plentyn ac sy’n ystyriol o drawma
  • Deall cysyniadau rhagfarn ar sail rhyw ac oedolyneiddio, a sut maen nhw’n effeithio ar ymatebion diogelu effeithiol
  • Datblygu a deall yr hyn sy’n gyffredinrhwng Camfanteisio Troseddol ar Blant a Thrais Ieuenctid Difrifol
  • Esgeulustod Cymhleth
Archebwch eich lle yma