Oedolion mewn Perygl, Cam-drin Domestig, Rheolaeth drwy Orfodaeth ac Y Ddeddf Galluedd Meddyliol (27/11/2024)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):27/11/020427/11/2024  ( 09:3016:30 )
Darperir y Cwrs:

SESIWN HYFFORDDIANT WYNEB I WYNEB: Lleoliad: The Oak Boardroom, Floor 2, Mamhilad House, Mamhilad Park Estate, Pontypool, Torfaen, NP4 0YT

Hwyluswyd Gan:

Rhiannon Mainwaring & Ann-Marie Curtis

Defnyddiwr gwasanaeth:

Oedolion

Mae'r sesiynau wedi'u hanelu at ymarferwyr aml-asiantaeth sy'n ymwneud â gwaith uniongyrchol gydag oedolion a allai fod mewn perygl.

Mae'r cwrs undydd hwn wedi ei anelu at ymarferwyr sy'n gweithio gyda oedolion sydd ag anghenion gofal cymdeithasol ac a allai fod mewn perygl o gam-drin domestig gan gynnwys rheolaeth drwy orfodaeth pan mae galluedd yn bryder.

Nod:

I ddod yn ymwybodol o ystyriaethau risg, opsiynau cymorth a chanllawiau arfer gorau i ganiatáu ymarferwyr i ymateb yn effeithiol.

Cynulleidfa darged:

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer ymarferwyr sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol dros ddiogelu pobl:

  • Sy'n cynorthwyo neu'n darparu gofal i bobl agored i niwed sydd efallai heb y galluedd i gydsynio i ofal, sy'n derbyn gofal mewn lleoliad cymunedol,
  • Sydd â rôl asesu gysylltiedig â galluedd meddyliol a'r broses ddiogelu,

a/neu,

  • Sy'n gweithredu ar lefel lle maen nhw’n roi cyngor ar ddiogelu i eraill,
  • Sy'n treulio llawer o amser heb oruchwyliaeth a lle gallai fod pryderon diogelu, lle mae pobl yn ddibynnol ar eraill i eirioli drostyn nhw oherwydd cyflwr cronig.

Deilliannau dysgu:

  1. Diffinio deinameg cam-drin domestig a rheolaeth drwy orfodaeth ac egluro effaith cam-drin domestig a rheolaeth drwy orfodaeth ar yr unigolyn.
  2. Disgrifio canllawiau' r Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (DGM), cyfraith achosion cysylltiedig ag Adolygiad Ymarfer Oedolion ac egluro ynghylch gorfodaeth a galluedd.
  3. Trafod rheoli ac asesu risg, gyda mewnbwn yr unigolyn ble'n bosibl, i gytuno ar ymatebion sy'n parchu ymreolaeth a hunanbenderfyniad wrth fantoli dyletswydd gofal a hybu urddas.
  4. Egluro'r broses ac ymarfer da os yw rhywun sy'n dioddef gorfodaeth gyda/heb y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau ynghylch eu trefniadau byw a chyswllt â'r tramgwyddwr honedig.
  5. Cymhwyso’r dysgu i astudiaethau achos er mwyn archwilio sefyllfaoedd ymarfer a dangos ymatebion diogel, cymesur a grymusol ar gyfer yr oedolyn sydd mewn perygl

Rhagofyniad - Mae angen i gyfranogion y sesiwn fod wedi derbyn hyfforddiant Deddf Galluedd Meddyliol blaenorol gan gynnwys asesu galluedd - er enghraifft ‘Deddf Galluedd Meddyliol - Sut i Asesu' neu debyg i gyrchu'r sesiwn hwn.

 

Archebwch eich lle yma