Deddf Galluedd Meddyliol a Diogelu Plant a Phobl Ifanc (07/03/2025)
Manylion y Cwrs
Dydd(au):07/03/2025 ( 09:30 – 12:30 )
Darperir y Cwrs:
Wyneb yn Wyneb
Hwyluswyd Gan:
Rhiannon Mainwaring
Defnyddiwr gwasanaeth:
Plant
Bydd y sesiwn yn helpu ymarferwyr plant a phobl ifanc i ddod yn fwy ymwybodol o'r ystyriaethau risg, yr opsiynau cymorth a'r canllawiau arferion gorau i alluogi ymarferwyr i ymateb yn effeithiol ac yn gyfreithlon.
Bydd y sesiwn yn gweithredu fel hyfforddiant dilynol defnyddiol ar gyfer ymarferwyr sydd wedi mynychu hyfforddiant Grŵp C generig ac sydd wedi nodi y bydden nhw'n elwa ar Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus ychwanegol mewn perthynas â phlant a phobl ifanc a'r Ddeddf Galluedd Meddyliol, cymhwysedd Gillick, canllawiau Fraser ac ati.
Cynulleidfa darged:
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer ymarferwyr sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol am ddiogelu pobl ifanc:
- sydd â rôl asesu sy'n gysylltiedig â'r broses ddiogelu,
a/neu
- sy'n gweithredu ar lefel lle maen nhw'n rhoi cyngor ar ddiogelu i eraill
Deilliannau dysgu:
- Trosolwg byr o'r ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i ymarferwyr plant a phobl ifanc ar gyfer gwneud penderfyniadau fel cymhwysedd Gillick, canllawiau Fraser, hawliau dynol, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau'r Plentyn, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r Ddeddf Galluedd Meddyliol.
- Disgrifio defnydd posibl o'r Ddeddf Galluedd Meddyliol ar gyfer plant a phobl ifanc 16 oed a hŷn o ran diogelu, cynnal asesiad galluedd tri cham ac, os nad oes gan unigolyn alluedd, sut i fynd ymlaen er budd pennaf.
- Egluro camweithrediad gweithredol ac asesu galluedd meddyliol ar gyfer ymarferwyr plant a phobl ifanc sy'n gweithio gyda phobl ifanc sydd ag awtistiaeth neu anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) mewn perthynas â phenderfyniadau diogelu y mae angen iddyn nhw eu gwneud.
- Ystyried yr angen am gyfyngiadau arbennig ar ryddid person ifanc oherwydd pryderon diogelu.