Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (04/07/2024)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):04/07/2024  ( 10:0012:00 )
Darperir y Cwrs:

Microsoft Teams

Hwyluswyd Gan:

Julie James

Defnyddiwr gwasanaeth:

Plant

Mae'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol yn fframwaith ar gyfer adnabod dioddefwyr cam-fanteisio a masnachu pobl, a sicrhau eu bod nhw’n derbyn y cymorth a'r amddiffyniad cywir.

Y gynulleidfa darged

Pob ymarferydd aml-asiantaeth (cofrestredig / rheoledig ai peidio) gan gynnwys rolau gwirfoddol, sydd mewn cysylltiad rheolaidd â phlant o fewn eu rolau.

Nod

Codi ymwybyddiaeth o'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (MAC) a sut y gall plant a phobl ifanc fod yn agored i gam-fanteisio, Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl.

Amcanion

  • Trafod pwrpas y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (MAC)
  • Tynnu sylw at Raglen Beilot Penderfynu Datganoledig MAC
  • Archwilio proses atgyfeirio MAC a sut mae'r panel yn dod i benderfyniadau
  • Archwilio Caethwasiaeth Fodern
Archebwch eich lle yma