Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (24/10/2024)
Manylion y Cwrs
Dydd(au):24/10/2024 ( 10:00 – 12:00 )
Darperir y Cwrs:
Microsoft Teams
Hwyluswyd Gan:
Julie James
Defnyddiwr gwasanaeth:
Plant
Mae'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol yn fframwaith ar gyfer adnabod dioddefwyr cam-fanteisio a masnachu pobl, a sicrhau eu bod nhw’n derbyn y cymorth a'r amddiffyniad cywir.
Y gynulleidfa darged
Pob ymarferydd aml-asiantaeth (cofrestredig / rheoledig ai peidio) gan gynnwys rolau gwirfoddol, sydd mewn cysylltiad rheolaidd â phlant o fewn eu rolau.
Nod
Codi ymwybyddiaeth o'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (MAC) a sut y gall plant a phobl ifanc fod yn agored i gam-fanteisio, Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl.
Amcanion
- Trafod pwrpas y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (MAC)
- Tynnu sylw at Raglen Beilot Penderfynu Datganoledig MAC
- Archwilio proses atgyfeirio MAC a sut mae'r panel yn dod i benderfyniadau
- Archwilio Caethwasiaeth Fodern