Hyfforddiant Ymddygiad Rhywiol Niweidiol Un Diwrnod (13/03/2024)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):13/03/2024  ( 09:3016:30 )
Darperir y Cwrs:

Sesiwn wyneb yn wyneb: Lleoliad: Rhymney Room, Ty Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG

Hwyluswyd Gan:

Barnardo's Cymru

Defnyddiwr gwasanaeth:

Plant

Cynulleidfa Darged: Ymarferwyr amlasiantaeth gwasanaethau i blant a theuluoedd

Yn dilyn yr hyfforddiant hwn, bydd y rhai sy'n gwneud y cwrs yn gallu:

Yn dilyn yr hyfforddiant hwn, bydd y rhai sy'n gwneud y cwrs yn gallu:

  • Gweithio o fewn canllawiau a gweithdrefnau Llywodraeth Cymru wrth adnabod Ymddygiad Rhywiol Niweidiol,
  • Darparu ymatebion cymesur i blant sy’n dangos Ymddygiad Rhywiol Niweidiol,
  • Cymhwyso gwybodaeth am ffactorau risg ac anghenion sy'n gysylltiedig ag Ymddygiad Rhywiol Niweidiol yn ymarferol,
  • Adnabod ffactorau amddiffyn ac adeiladu arnyn nhw i atal Ymddygiad Rhywiol Niweidiol rhag gwaethygu,
  • Cymhwyso strategaethau ymarfer wrth gynorthwyo plant a theuluoedd sy'n gwadu neu'n lleihau Ymddygiad Rhywiol Niweidiol,
  • Creu cynlluniau diogelwch ymarferol i hyrwyddo datblygiad iach i blant gan reoli pryderon ynghylch risg Ymddygiad Rhywiol Niweidiol.

Mae trais rhywiol yn gam difrifol yn erbyn urddas dynol sy'n gallu bod yn drawmatig iawn i ddioddefwyr, teuluoedd a chymunedau. Er nad ydyn ni'n disgwyl i blant ymddwyn fel hyn, mae Ymddygiad Rhywiol Niweidiol gan blant dan 18 oed yn ffurf gyffredin o gam-drin rhywiol (Radford 2011) a all fod yr un mor niweidiol i ddioddefwyr â cham-drin plant yn rhywiol y mae oedolion yn gyfrifol amdano.

Fodd bynnag, mae plant a phobl ifanc yn cynrychioli poblogaeth wahanol i oedolion sy'n cyflawni troseddau rhywiol, ac mae llwybrau mewn – ac allan – o'r ymddygiadau hyn yn wahanol iawn o blant o'i gymharu â phoblogaethau oedolion.

Mae persbectif datblygiad plant yn rhagweld y ffaith bod plant sydd wedi niweidio eraill yn aml yn agored i niwed eu hunain. Bydd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar y ffactorau sy'n cael dylanwad ar Ymddygiad Rhywiol Niweidiol gan blant a phobl ifanc.

Bydd yn rhoi trosolwg o ddulliau wedi'u hamlygu yng Nghanllawiau a Gweithdrefnau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Ymddygiad Rhywiol Niweidiol yn cael ei weld o fewn cyd-destun diogelu sy'n ymestyn i ymwybyddiaeth ddatblygiadol o anghenion gofal, cymorth ac amddiffyn yr holl blant dan sylw.

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r grŵp hwn o blant. Y diben yw helpu cydweithwyr drwy wella eu dealltwriaeth o waith ymgysylltu, asesu ac adfer ar ôl Ymddygiad Rhywiol Niweidiol ar draws ei holl feysydd a'u galluogi nhw i nodi a darparu ymatebion cymesur i ddiwallu anghenion y plentyn mewn cyd-destun teuluol, ar-lein ac yn y gymuned.

Nod y cwrs hwn yw helpu gweithwyr proffesiynol i ddatblygu sgiliau a thechnegau wrth asesu a gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ym maes Ymddygiad Rhywiol Niweidiol.

Bydd y cwrs hwn yn defnyddio astudiaethau achos, ymarferion a thrafodaeth i helpu gweithwyr proffesiynol i fyfyrio ar eu hymarfer yn ogystal â magu hyder wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc lle mae pryderon rhywiol.

Archebwch eich lle yma