Hyfforddiant Ymddygiad Rhywiol Niweidiol (19/01/2026)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):19/01/2026  ( 09:3016:30 )
Darperir y Cwrs:

Wyneb yn Wyneb yn Parc Mamhilad, Pontypwl, NP4 0HZ

Hwyluswyd Gan:

Barnardos Better Futures

Defnyddiwr gwasanaeth:

Plant

Bydd y cwrs yn rhoi trosolwg i ymarferwyr o ddulliau wedi'u hamlygu yng Nghanllawiau a Gweithdrefnau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Ymddygiad Rhywiol Niweidiol yn cael ei weld o fewn cyd-destun diogelu sy'n ymestyn i ymwybyddiaeth ddatblygiadol o anghenion gofal, cymorth ac amddiffyn yr holl blant dan sylw.

Nod y cwrs yw helpu cydweithwyr drwy wella eu dealltwriaeth o waith ymgysylltu, asesu ac adfer ar ôl Ymddygiad Rhywiol Niweidiol ar draws ei holl feysydd a'u galluogi nhw i nodi a darparu ymatebion cymesur i ddiwallu anghenion y plentyn mewn cyd-destun teuluol, ar-lein ac yn y gymuned. Bydd y cwrs yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddatblygu sgiliau a thechnegau wrth asesu a gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ym maes Ymddygiad Rhywiol Niweidiol.

Yn dilyn yr hyfforddiant hwn, bydd y rhai sy'n gwneud y cwrs yn gallu:

  • Gweithio o fewn canllawiau a gweithdrefnau Llywodraeth Cymru wrth adnabod Ymddygiad Rhywiol Niweidiol,
  • Darparu ymatebion cymesur i blant sy’n dangos Ymddygiad Rhywiol Niweidiol,
  • Cymhwyso gwybodaeth am ffactorau risg ac anghenion sy'n gysylltiedig ag Ymddygiad Rhywiol Niweidiol yn ymarferol,
  • Adnabod ffactorau amddiffyn ac adeiladu arnyn nhw i atal Ymddygiad Rhywiol Niweidiol rhag gwaethygu,
  • Cymhwyso strategaethau ymarfer wrth gynorthwyo plant a theuluoedd sy'n gwadu neu'n lleihau Ymddygiad Rhywiol Niweidiol,
  • Creu cynlluniau diogelwch ymarferol i hyrwyddo datblygiad iach i blant gan reoli pryderon ynghylch risg Ymddygiad Rhywiol Niweidiol.
Archebwch eich lle yma