Hyfforddiant Un Diwrnod Ymateb yn y Gwaith i Gam-drin Plant yn Rhywiol (31/01/2024)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):31/01/2024  ( 09:3016:30 )
Darperir y Cwrs:

Microsoft Teams

Hwyluswyd Gan:

Barndardo's Cymru

Defnyddiwr gwasanaeth:

Plant

Cynulleidfa Darged: Ymarferwyr amlasiantaeth gwasanaethau i blant a theuluoedd

Yn dilyn yr hyfforddiant hwn, bydd y rhai sy'n gwneud y cwrs yn gallu:

  • Deall graddau a natur cam-drin plant yn rhywiol,
  • Nodi ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol mewn gwahanol gyd-destunau, gan ddefnyddio’r offeryn arwyddion a dangosyddion sydd wedi'i gynhyrchu gan y ganolfan arbenigedd,
  • Adnabod dangosyddion geiriol a dieiriau o gam-drin plant yn rhywiol,
  • Nodi'r rhwystrau sy'n gallu stopio plant rhag datgelu am gam-drin yn rhywiol, ac ystyried sut mae hyn yn effeithio ar adnabod cam-drin plant yn rhywiol gan weithwyr proffesiynol,
  • Ystyried sut mae rhwystrau’n berthnasol i grwpiau penodol o blant yn seiliedig ar nodweddion unigol,
  • Deall yr effaith o gam-drin plant yn rhywiol heb ei gymodi ar draws cwrs bywyd,
  • Ystyried yr effaith o gam-drin plant yn rhywiol ar frodyr a chwiorydd ac aelodau’r teulu ehangach,
  • Ymgysylltu â rhieni/gofalwyr nad ydyn nhw'n cam-drin i gynorthwyo diogelu a dod dros brofiadau,
  • Cynyddu ffactorau amddiffynnol a gwytnwch mewn teuluoedd yn dilyn achosion o gam-drin plant yn rhywiol,
  • Adnabod yr angen am hunanofal gan ymarferwyr.

Mae cam-drin rhywiol yn digwydd ar draws amrywiaeth o gyd-destunau ac mae'n gallu arwain at blant a phobl ifanc yn profi lefelau gwanychol o drawma sy'n gallu cael effaith uniongyrchol a hirhoedlog.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn amlygu’r meysydd hyn ac yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar hawliau plant i asesu cam-drin plant yn rhywiol ac ymyrryd mewn achosion o hynny ar draws amrywiaeth o gyd-destunau.

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion gwahanol weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r grŵp hwn o blant. Y diben yw helpu cydweithwyr drwy wella eu dealltwriaeth o ymgysylltu, asesu cam-drin plant yn rhywiol a helpu plant i ddod dros achosion o hynny ar draws ei holl feysydd a’u galluogi i nodi a darparu ymatebion cymesur i ddiwallu anghenion y plentyn mewn cyd-destun teuluol, ar-lein a chymunedol.

Bydd amrywiaeth o safbwyntiau damcaniaethol yn cael eu hamlinellu i ddarparu ymagwedd gynhwysfawr at y materion cymhleth sy'n cael eu profi gan blant a theuluoedd y mae cam-drin plant yn rhywiol yn effeithio arnyn nhw ar draws ei holl feysydd.

Nod y cwrs hwn yw helpu gweithwyr proffesiynol i ddatblygu sgiliau a thechnegau wrth asesu a gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ym maes cam-drin plant yn rhywiol.

Bydd y cwrs hwn yn defnyddio astudiaethau achos, ymarferion a thrafodaeth i helpu gweithwyr proffesiynol i fyfyrio ar eu hymarfer yn ogystal â magu hyder wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc lle mae pryderon rhywiol.

Archebwch eich lle yma