Hyfforddiant Un Diwrnod ar Niwed Ar-lein (04/03/2024)
Manylion y Cwrs
Microsoft Teams
Barnardo's Cymru
Plant
Cynulleidfa Darged: Ymarferwyr amlasiantaeth gwasanaethau i blant a theuluoedd
Yn dilyn yr hyfforddiant hwn, bydd y rhai sy'n gwneud y cwrs yn gallu:
- Gweithio o fewn canllawiau a gweithdrefnau Llywodraeth Cymru wrth ymateb i niwed gan blant neu niwed i blant ar-lein,
- Deall y cyd-destun deddfwriaethol presennol, a sut y gallai hyn effeithio ar ein gwaith gyda phlant,
- Ystyried sut mae plant yn datblygu ar-lein a sut mae hyn yn effeithio ar eu datblygiad rhywiol,
- Cymryd trosolwg cyfoes a chytbwys o’r hyn sy'n gallu digwydd i blant ar-lein,
- Deall effaith materion sy’n ymwneud â datblygiad rhywiol ar-lein, gan gynnwys defnydd o bornograffi, cyfryngau cymdeithasol, eithafiaeth a chynnwys actifiaeth,
- Nodi pryderon o ran ymddygiad rhywiol ar-lein gan ddefnyddio'r continwwm ymddygiad rhywiol,
- Darparu ymatebion cymesur i blant sy’n cael eu niweidio ar-lein neu blant sy’n niweidio eraill yn y cyd-destun hwn,
- Deall pa mor agored yw plant a phobl ifanc i gael eu niweidio/cam-drin ar-lein, gan gynnwys effaith hyn ar blant, pobl ifanc a theuluoedd,
- Asesu’r hyn y gall fod ei angen ar blant gan eu rhieni a gwasanaethau cymorth i helpu diogelu ac adfer,
- Creu cynlluniau diogelwch ymarferol i hyrwyddo datblygiad iach i blant ar-lein gan reoli risgiau sy'n gysylltiedig â gofodau digidol.
Dros y degawd diwethaf, mae mynediad at dechnoleg wedi cynyddu ar gyfer pob grŵp yn y gymdeithas, efallai hyd yn oed yn fwy yng nghyd-destun y pandemig COVID-19. I blant a phobl ifanc, mae gan y rhan fwyaf o agweddau ar fywyd heddiw elfen ar-lein, gan gynnwys addysg, perthnasoedd cymdeithasol ac adloniant. Yn Gwell Dyfodol, rydyn ni wedi gweld cynnydd mewn atgyfeiriadau am gymorth mewn perthynas ag Ymddygiad Rhywiol Niweidiol, Cam-drin Plant yn Rhywiol a Chamfanteisio'n Rhywiol ar Blant lle mae technoleg yn rhan o'r broblem.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn canolbwyntio ar ymchwil a thystiolaeth ymarferol ynghylch ffactorau i'w hystyried wrth nodi, asesu ac ymyrryd pan mae plant a phobl ifanc yn niweidio eraill neu wedi cael eu niweidio ar-lein. Bydd yn rhoi mewnwelediad i’r ffactorau sy’n cynyddu’r risg i niwed a’r agoredrwydd i niwed i blant mewn gofodau digidol, yn ogystal â beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer ymyrraeth.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhyngweithiol ei natur, yn defnyddio enghreifftiau o astudiaethau achos ac yn darparu adnoddau ymarferion i gynrychiolwyr eu defnyddio mewn gwaith uniongyrchol gyda phlant i gynorthwyo atal cynradd, eilaidd a thrydyddol.
Bydd pwysigrwydd datblygiad plant, gan gynnwys datblygiad rhywiol plant ar-lein, yn cael ei ystyried fel rhan o’r gweithdy yn ogystal â sut y gellir cynorthwyo plant i ffynnu mewn gofodau ar-lein a dod yn ddinasyddion digidol cyfrifol y dyfodol.