Grŵp C ar Ddiogelu Plant (09/04/2025)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):09/04/2025  ( 09:1516:45 )
Darperir y Cwrs:

Wyneb yn wyneb yn Parc Mamhilad, Pontypwl

Hwyluswyd Gan:

Diogelu Gwent

Defnyddiwr gwasanaeth:

Plant

Am Grwp C Dysgu

Cafodd Safonau Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol eu lansio yng Nghymru yn 2022. Nod y safonau yw cynorthwyo ymarferwyr i ddeall eu rôl a'u cyfrifoldebau nhw o ran diogelu, yn berthnasol i'r grŵp staff maen nhw ynddo.

Mae'r Cwrs Diogelu Gwent hwn ar gyfer ymarferwyr sydd angen yr 8 awr o ddysgu cyffredinol Grŵp C ar Ddiogelu Plant. Ymarferwyr Grŵp C yw'r rhai sydd â chyfrifoldeb diogelu uniongyrchol:

  • Sydd â rôl asesu sy’n gysylltiedig â’r broses ddiogelu a / neu
  • sy'n gweithredu ar lefel lle gallant roi cyngor ar ddiogelu i'r rhai yng ngrŵp A a grŵp B a / neu
  • sydd mewn lleoliad y maent yn gweithio ynddo neu'n ei reoli a / neu
  • y maent yn treulio llawer o amser gyda nhw heb oruchwyliaeth a lle gallai pryderon diogelu godi

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer Person neu Bersonau Diogelu Dynodedig a'r rhai sy'n cymryd rhan mwy blaenllaw wrth wneud penderfyniadau o ran diogelu yn eu lleoliadau nhw, gan gynnwys pobl sy'n chwarae rhan weithredol mewn gweithgareddau cynllunio diogelwch.

Mae'n bosibl gall gweithredwyr Grŵp C gyfrannu at asesu, cynllunio, ymyrryd ac adolygu anghenion unigolion lle mae pryderon diogelu, neu gymryd rhan lawn yn y gwaith hwnnw

DS: Mae hwn yn hyfforddiant diogelu cyffredinol grŵp C y dylai holl ymarferwyr i plant grŵp C ei gyflawni. Bydd hefyd angen hyfforddiant ychwanegol sy’n berthnasol i rôl a chyfrifoldebau penodol ymarferwyr ar ôl cwblhau hyfforddiant cyffredinol Grŵp C. Fel arfer, bydd hyn yn benodol i'r asiantaeth/rôl a'n ffurfio rhan o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus ymarferwyr.

Themâu Dysgu Allweddol? (Rhestr lawn o ddeilliannau dysgu ar gael ar gais)

  • Deddfwriaeth
  • Gweithio mewn ffyrdd sy'n diogelu plant a phobl ifanc
  • Ffactorau, sefyllfaoedd, gweithredoedd a all gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  • Gwybod sut, pryd ac i bwy i roi gwybod am wahanol fathau o gamdriniaeth, esgeulustod a niwed.
  • Cymryd rhan mewn prosesau diogelu aml-asiantaeth
  • Atebolrwydd Proffesiynol
  • Safonau Grŵp C Cenedlaethol sy'n benodol i blant a phobl ifanc

Sylwch: Mae cwblhau llyfr gwaith myfyriol yn orfodol ar ôl cyrchu'r modiwl ar-lein sy'n ffurfio Rhan 1 y cwrs hwn. Byddai methu â chwblhau’r ymarferion myfyriol yn Rhan 1 yn golygu y gall cyfranogwyr ei chael hi’n anodd cymryd rhan lawn yn y trafodaethau sy’n rhan o’r Sesiwn wedi’i Hwyluso, yn ogystal â chymhwyso’r dysgu arfaethedig wrth symud ymlaen.

Ni fydd hyfforddiant Grŵp B yn cael ei gynnwys yn sesiwn Grŵp C. Yn dibynnu ar eich hyfforddiant diogelu blaenorol a’ch profiad yn gweithio’n uniongyrchol gyda materion diogelu, efallai yr hoffech chi ystyried mynychu hyfforddiant Grŵp B cyn mynychu hyfforddiant Grŵp C, gan nad yw agweddau Grŵp B yn cael eu cynnwys yng nghwrs Grŵp C. Mae hyfforddiant Grŵp C wedi’i anelu at ymarferwyr sy’n ymwneud yn rheolaidd â diogelu a/neu’r rhai sy’n goruchwylio a chynghori staff llai profiadol, mewn perthynas â phryderon diogelu.

Archebwch eich lle yma