Dosbarthiadau Meistr – Dyletswydd i Roi Gwybod (Ffurflen) (15/01/2026)
Manylion y Cwrs
Microsoft Teams
BFE Consultancy
Plant
Mae'r Dosbarthiadau Meistr Dyletswydd i Roi Gwybod (Ffurflen) wedi'u cynllunio i uwchsgilio ymarferwyr Grwpiau B ac C nad ydyn nhw erioed wedi cael unrhyw hyfforddiant ffurfiol ar sut i lenwi ffurflen Dyletswydd i Roi Gwybod (Ffurflen Atgyfeirio Aml-Asiantaeth ar gyfer plant gynt) ar gyfer plentyn a amheuir mewn perygl. Bydd y sesiwn yn helpu cyfranogwyr i ystyried trothwyon ar gyfer diogelu yn ogystal â’u helpu nhw i lenwi ffurflenni Dyletswydd i Roi Gwybod i safon uchel. Bydd y sesiwn yn mynd i'r afael ag unrhyw fylchau yng ngwybodaeth neu ddealltwriaeth ymarferwyr ynghylch pa wybodaeth i'w chynnwys ar y ffurflen Dyletswydd i Roi Gwybod, sut mae'r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio a beth i'w ddisgwyl ar ôl cyflwyno ffurflen Dyletswydd i Roi Gwybod.
Nod: Er mwyn galluogi cyfranogwyr i gymhwyso trothwyon a pharatoi Adroddiad Diogelu manwl a chywir i’w galluogi nhw i roi gwybod yn effeithiol ar bryderon diogelu, gan leihau atgyfeiriadau amhriodol ac oedi wrth brosesu gwybodaeth a symud pryderon diogelu yn eu blaen mewn modd amserol.
Cynulleidfa darged: Ymarferwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Grwpiau B ac C
Deilliannau dysgu:
Ar ôl cwblhau'r sesiwn ar-lein hon, bydd y cyfranogwyr yn gallu gwneud y canlynol:
- Bod yn ymwybodol o'r dyletswyddau statudol mewn perthynas â rhoi gwybod am bryderon;
- Adnabod sefyllfaoedd sy'n gofyn am Ddyletswydd i Roi Gwybod a chymhwyso meini prawf trothwy (mae canllawiau ar gael).
- Bod yn ymwybodol o'r wybodaeth sydd ei hangen wrth rhoi gwybod am bryderon;
- Bod yn ymwybodol o sut i ymdrin â chaniatâd;
- Nodi'r effaith y gallai cynnwys y ffurflen Dyletswydd i Roi Gwybod ei chael ar y camau y bydd awdurdodau’n eu cymryd;
- Llunio adroddiad manwl, cywir, a ffeithiol yn barod i'w gyflwyno;
- Bod yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd ar ôl cyflwyno'r adroddiad a'r camau i'w cymryd os na fydd ymateb yn dod i law;
- Bod yn ymwybodol o adnoddau diogelu rhanbarthol a chenedlaethol perthnasol
