Diogelu Plant - Y Broses Ddiogelu (23/05/2024)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):23/05/2024  ( 09:0013:30 )
Darperir y Cwrs:

Microsoft Teams

Hwyluswyd Gan:

Diogelu Gwent

Defnyddiwr gwasanaeth:

Plant

Ymarferwyr sydd angen gwybodaeth ddatblygedig ar gyfer ymarfer diogelu e.e. ymarferwyr cofrestredig/anghofrestredig gyda rôl asesu/cynllunio/ymyrryd/gwerthuso.

Cynulleidfa darged:

Ymarferwyr sydd angen gwybodaeth ddatblygedig ar gyfer ymarfer diogelu e.e. ymarferwyr cofrestredig/anghofrestredig gyda rôl asesu/cynllunio/ymyrryd/gwerthuso. Bydd gan yr ymarferwyr hyn rôl cynllunio diogelu/diogelu clir (e.e. yn mynychu cyfarfodydd strategaeth/ cynadleddau achos/ grwpiau craidd). Trydydd sector i sicrhau bod staff perthnasol (fel yr uchod) yn mynychu'r lefel hon o hyfforddiant (e.e. y rhai sy'n cyflawni rôl Person Diogelu Dynodedig amlasiantaethol).

Efallai y bydd cyfranogwyr yn dod o amrywiaeth eang o leoliadau, er enghraifft, tai, blynyddoedd cynnar, gwasanaethau iechyd sylfaenol, lleoliadau addysg a chymunedol a darparwyr gofal eraill

Rhan 1 – Modiwl hunangyfeiriedig a llawlyfr y cwrs (tua 1 awr):

Disgrifio deddfwriaeth allweddol

Disgrifio 5 categori o niwed ac amrywiaeth o arwyddion a symptomau posibl

Disgrifio lle mae modd cael gwybodaeth am weithdrefnau diogelu plant cenedlaethol, protocolau rhanbarthol, a manylion cyswllt a ffurflenni lleol

Dangos dealltwriaeth o egwyddorion allweddol ymarfer diogelu, a thermau allweddol o fewn Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gyfer plant

Disgrifio'r Ddyletswydd i Adrodd, beth i'w wneud os bydd gennych chi bryder ynghylch plentyn a'r broses cyflwyno adroddiad (atgyfeiriad)

Dangos dealltwriaeth sylfaenol o ymholiadau Adran 47 a chamau'r Broses Diogelu Plant.

Llawlyfr y cwrs:

Lle i wneud nodiadau

Dolenni ar gyfer rhagor o ddarllen a gwybodaeth

Gwiriad gwybodaeth gorfodol, yn hanfodol i gyrchu Rhan Dau

Rhan 2 – Sesiwn wedi'i hwyluso (4 awr):

Disgrifio egwyddorion ar gyfer ymarfer diogelu, a sut mae'r rhain yn cael eu cymhwyso.

Dangos dealltwriaeth o beth yw cyflwyno adroddiad yn fedrus.

Disgrifio camau allweddol y broses diogelu plentyn sy'n dod ar ôl cyflwyno ‘Dyletswydd i Adrodd’

Deall trefniadau amlasiantaethol a rolau a chyfrifoldebau (disgwyliadau) ymarferwyr trwy gydol y broses ddiogelu

Sylwch: Mae cwblhau gwiriad gwybodaeth yn orfodol, bydd methu â chwblhau hwn yn atal y cyfranogwr rhag mynychu'r Sesiwn sy'n cael eu Hwyluso Rhan 2

Archebwch eich lle yma