Diogelu Plant ac Oedolion: Ymarferwyr Grŵp B (10/10/2024)
Manylion y Cwrs
Wyneb yn Wyneb - Venue: Rhymney Room, Ty Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7PG
Diogelu Gwent
Plant
Oedolion
Nod y cwrs hwn yw cynorthwyo ymarferwyr Grŵp B i ddeall eu rôl a'u cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu. Ymarferwyr Grŵp B yw'r rhai sy'n treulio amser gyda phobl mewn sefyllfa grŵp neu un i un ac sydd â chyfrifoldeb penodol mewn perthynas â'r bobl y maen nhw'n gweithio gyda nhw – felly, maen nhw angen lefel uwch o wybodaeth na'r rhai yng Nghrŵp A. Efallai y bydd gan y bobl y maen nhw'n gweithio gyda nhw bryderon diogelu neu beidio.
Os oes pryderon diogelu, bydd llinell glir o ran rhoi gwybod yn y sefydliad a bydd yr ymarferydd yn ymwybodol o'i gyfrifoldeb i roi gwybod am bryderon, yn fewnol ac i'r gwasanaethau cymdeithasol yn uniongyrchol os oes angen.
Ni fydd gan ymarferwyr Grŵp B rôl statudol mewn perthynas â'r broses ddiogelu ac ni fydden nhw'n eistedd ar grwpiau craidd nac yn rhan o gynllunio amddiffyn. Ni fyddai disgwyl iddyn nhw roi cyngor diogelu i eraill.
Deilliannau dysgu Grŵp B
- gwybod y ddeddfwriaeth a pholisïau perthnasol, codau ymarfer ac arferion proffesiynol sy'n adlewyrchu eu rôl o ran diogelu.
- gallu disgrifio sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod, a gwybod sut i fod yn chwilfrydig pan fyddan nhw'n dyst i gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu os bydd rhywun yn dweud ei fod yn cael ei gam-drin.
- gallu egluro ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a allai arwain at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod.
- gwybod sut, pryd ac i bwy i roi gwybod am wahanol fathau o gamdriniaeth, esgeulustod a niwed.