Diogelu Plant ac Oedolion: Ymarferwyr Grŵp B (16/01/2025)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):16/01/2025  ( 09:3016:30 )
Darperir y Cwrs:

Wyneb yn Wyneb - Lleoliad: The Oak Boardroom, Floor 2, Mamhilad House, Mamhilad Park Estate, Pontypool, Torfaen, NP4 0YT

Hwyluswyd Gan:

Diogelu Gwent

Defnyddiwr gwasanaeth:

Plant

Oedolion

Nod y cwrs hwn yw cynorthwyo ymarferwyr Grŵp B i ddeall eu rôl a'u cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu. Ymarferwyr Grŵp B yw'r rhai sy'n treulio amser gyda phobl mewn sefyllfa grŵp neu un i un ac sydd â chyfrifoldeb penodol mewn perthynas â'r bobl y maen nhw'n gweithio gyda nhw – felly, maen nhw angen lefel uwch o wybodaeth na'r rhai yng Nghrŵp A. Efallai y bydd gan y bobl y maen nhw'n gweithio gyda nhw bryderon diogelu neu beidio.

Os oes pryderon diogelu, bydd llinell glir o ran rhoi gwybod yn y sefydliad a bydd yr ymarferydd yn ymwybodol o'i gyfrifoldeb i roi gwybod am bryderon, yn fewnol ac i'r gwasanaethau cymdeithasol yn uniongyrchol os oes angen.

Ni fydd gan ymarferwyr Grŵp B rôl statudol mewn perthynas â'r broses ddiogelu ac ni fydden nhw'n eistedd ar grwpiau craidd nac yn rhan o gynllunio amddiffyn. Ni fyddai disgwyl iddyn nhw roi cyngor diogelu i eraill.

Deilliannau dysgu Grŵp B

  • gwybod y ddeddfwriaeth a pholisïau perthnasol, codau ymarfer ac arferion proffesiynol sy'n adlewyrchu eu rôl o ran diogelu.
  • gallu disgrifio sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod, a gwybod sut i fod yn chwilfrydig pan fyddan nhw'n dyst i gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu os bydd rhywun yn dweud ei fod yn cael ei gam-drin.
  • gallu egluro ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a allai arwain at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod.
  • gwybod sut, pryd ac i bwy i roi gwybod am wahanol fathau o gamdriniaeth, esgeulustod a niwed.
Archebwch eich lle yma