Digwyddiad Ymarferwyr Rhwydwaith Diogelu Lleol - Gwella Ymarfer: Dysgu o Adolygiadau (22/05/2024)
Manylion y Cwrs
Dydd(au):22/05/2024 ( 13:00 – 16:00 )
Darperir y Cwrs:
MS Teams
Hwyluswyd Gan:
Diogelu Gwent
Defnyddiwr gwasanaeth:
Oedolion
Plant
VAWDASV
Nod y digwyddiadau hyn yw rhoi cyfle i rannu gwybodaeth yn ymwneud ag amrywiaeth o faterion a phynciau'n ymwneud â diogelu, ac maen nhw wedi'u cynllunio ar gyfer staff a gwirfoddolwyr yn rhanbarth Gwent.
Y thema eleni yw Gwella Ymarfer: Dysgu o Adolygiadau a bydd cyflwyniadau yn ehangu ar y themâu allweddol sydd wedi'u nodi yn Adolygiad Cyflym o Drefniadau Amddiffyn Plant Arolygiaeth Gofal Cymru, dadansoddiad thematig Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru o Adolygiadau Ymarfer Plant, ac Adolygiadau Ymarfer Oedolion a Phlant rhanbarthol.
Bydd cyflwyniadau yn cynnwys:
- Dogfen Drothwy Dyletswydd Plant i Adrodd;
- Gweithio â Pherygl;
- Adolygiad Diogelu Unedig Sengl;
- Diogelu Trosiannol;
- Celcio a hunan-esgeulustod;
- Llais y Plentyn a Phrofiadau Bywyd.