Digwyddiad Ymarferwyr Rhwydwaith Diogelu Lleol - Gwella Ymarfer: Dysgu o Adolygiadau (21/05/24)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):21/05/2024  ( 09:3012:30 )
Darperir y Cwrs:

MS Teams

Hwyluswyd Gan:

Diogelu Gwent

Defnyddiwr gwasanaeth:

Oedolion

Plant

VAWDASV

Nod y digwyddiadau hyn yw rhoi cyfle i rannu gwybodaeth yn ymwneud ag amrywiaeth o faterion a phynciau'n ymwneud â diogelu, ac maen nhw wedi'u cynllunio ar gyfer staff a gwirfoddolwyr yn rhanbarth Gwent.

Y thema eleni yw Gwella Ymarfer: Dysgu o Adolygiadau a bydd cyflwyniadau yn ehangu ar y themâu allweddol sydd wedi'u nodi yn Adolygiad Cyflym o Drefniadau Amddiffyn Plant Arolygiaeth Gofal Cymru, dadansoddiad thematig Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru o Adolygiadau Ymarfer Plant, ac Adolygiadau Ymarfer Oedolion a Phlant rhanbarthol.

Bydd cyflwyniadau yn cynnwys:

  • Dogfen Drothwy Dyletswydd Plant i Adrodd;
  • Gweithio â Pherygl;
  • Adolygiad Diogelu Unedig Sengl;
  • Diogelu Trosiannol;
  • Celcio a hunan-esgeulustod;
  • Llais y Plentyn a Phrofiadau Bywyd.
Archebwch eich lle yma