Deddf Hunan-Esgeuluso, Celcio a Galluedd Meddyliol 2005 (19/11/2024)
Manylion y Cwrs
Microsoft Teams
Edge Training
Oedolion
Nod y cwrs undydd hwn yw galluogi cyfranogwyr i ystyried cymhwyso Deddf Galluedd Meddyliol 2005 mewn perthynas ag achosion o hunan-esgeuluso drwy weithdrefnau Diogelu Oedolion.
Erbyn diwedd y cwrs bydd y cyfranogwyr yn:
• Meddu ar mwy o wybodaeth a’r gallu i asesu gallu mewn ffordd gadarn, mewn perthynas ag achosion diogelu oedolion sy'n hunan-esgeuluso
• Deall rôl yr awdurdod lleol o fewn Rheoliadau Diogelu’r Ddeddf Gofal
• Medru adnabod agweddau cyfreithiol y Ddeddf Galluedd Meddyliol sydd o bwysigrwydd penodol o ran diogelu, ac ystyried a defnyddio’r Llys Gwarchod
• Medru ystyried sut i ddefnyddio’r Ddeddf Galluedd Meddyliol i ymateb i achosion o hunan-esgeuluso gan adnabod a glynu at arfer gorau wrth gymhwyso’r Ddeddf.
• Mynd i’r afael â’r ddeddfwriaeth a’r gweithdrefnau cyfredol yng Nghymru
• Ystyried celcio fel agwedd o hunan-esgeuluso
Targed Grwp:
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol, Ymarferwyr/Gwneuthurwyr Penderfyniadau, Personau Diogelu Dynodedig (DSP) ac ati mewn gofal statudol neu gymdeithasol i oedolion, Ymarferwyr/Gwneuthurwyr Penderfyniadau/DSP ac ati mewn lleoliadau gofal/cymorth i oedolion a gomisiynir, Ymarferwyr Iechyd, Tai a'r Heddlu.