Cyflwyniad i Ddiogelu (Plant ac Oedolion) (18/06/2024)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):18/06/2024  ( 10:0012:30 )
Darperir y Cwrs:

Microsoft Teams

Hwyluswyd Gan:

Diogelu Gwent

Defnyddiwr gwasanaeth:

Plant

Oedolion

Mae’r cwrs yn darparu cyflwyniad i ddiogelu ar gyfer y sawl sy’n gweithio â phlant a/neu oedolion, p’un ai ydyn nhw’n gwneud hynny drwy swydd neu fel gwirfoddolwr. Cwrs canolradd yw hwn ar gyfer y rhai sydd angen gwybodaeth sylfaenol am ddiogelu (mwy nag ymwybyddiaeth sylfaenol)

Deilliannau Dysgu

Yn dilyn y sesiwn ar-lein hon, gobeithir y bydd cyfranogwyr yn gallu:

  • Disgrifio gwahanol fathau o gam-drin
  • Disgrifio ystyr ‘Diogelu’
  • Nodi ystod o faterion/pryderon diogelu
  • Disgrifio pa arwyddion a symptomau i edrych amdanynt
  • Cydnabod pwy allai cam-drin ac esgeulustod effeithio arno
  • Disgrifio'r Ddyletswydd i Adrodd, a phryd y gallai fod angen gweithredu
  • Dangos beth i'w wneud a gyda phwy i gysylltu os oes gennych bryder

Y Gynulleidfa Darged

Yr holl aelodau o staff sy'n gweithio mewn sefydliad, staff sy'n dod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc a/neu oedolion, p'un ai mewn cyflogaeth â thâl neu fel gwirfoddolwr. Cwrs canolradd yw hwn ar gyfer y rhai sydd angen gwybodaeth sylfaenol am ddiogelu (mwy nag ymwybyddiaeth sylfaenol).

Archebwch eich lle yma