Cydnerthedd Digidol (03/10/2024)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):03/10/2024  ( 10:0012:30 )
Darperir y Cwrs:

Microsoft Teams

Hwyluswyd Gan:

Lucy Faithfull Foundation

Defnyddiwr gwasanaeth:

Plant

Sesiwn yw hon ar faterion yn ymwneud â diogelwch ar y rhyngrwyd ac amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cael eu cam-drin ar-lein gan gynnwys yr effaith ar ddatblygiad ymennydd ac iechyd meddwl pobl ifanc yn eu harddegau, trosolwg o'r gyfraith yng Nghymru a sut i gael cymorth a chefnogaeth.

Nod:

Dod yn ymwybodol o'r risgiau ar-lein sy'n ymwneud â cham-drin a chamfanteisio'n rhywiol ar blant a sut i gadw plant yn ddiogel ar-lein.

Cynulleidfa Darged:

Anelir y sesiynau at ymarferwyr aml-asiantaethol sy'n ymwneud â gwaith uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd.

Canlyniadau Dysgu:

Yn dilyn y sesiwn ar-lein hon, y gobaith yw y bydd cyfranogwyr yn:

  • Meddu ar wybodaeth gynyddol am ddefnydd pobl ifanc o dechnoleg a'r rhyngrwyd
  • Datblygu mwy o hyder wrth gyfathrebu'n effeithiol am ddiogelwch ar y rhyngrwyd
  • Derbyn trosolwg o'r gyfraith yng Nghymru mewn perthynas â phobl ifanc a'r rhyngrwyd
  • Datblygu gwell dealltwriaeth o ymddygiadau sy'n peri pryder ar-lein a sut i gael cymorth a chefnogaeth
  • Codi ymwybyddiaeth o effaith y rhyngrwyd ar ddatblygiad ymennydd pobl ifanc yn eu harddegau ac iechyd meddwl
  • Ystyried y camau ataliol cadarnhaol y gall oedolion eu cymryd i amddiffyn plant a phobl ifanc ar y rhyngrwyd
Archebwch eich lle yma