Camfanteisio Troseddol (21/03/2025)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):21/03/2025  ( 10:0015:30 )
Darperir y Cwrs:

Wyneb yn wyneb yn Ty Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7PG

Hwyluswyd Gan:

Wesley Cunliffe

Defnyddiwr gwasanaeth:

Plant

Manylion am y cwrs:

Yn y cwrs hwn, byddwch chi’n dysgu beth yw Llinellau Cyffuriau a sut maen nhw’n gweithredu, yn ogystal â'r arwyddion sy'n gysylltiedig â nhw. Byddwch chi’n dysgu sut i adnabod a diogelu'r rhai sydd mewn perygl o gael eu camfanteisio arnyn nhw a sut i gynorthwyo unigolion sydd wedi’u heffeithio. Byddwch chi hefyd yn dysgu sut i ymateb i Linellau Cyffuriau, gan gynnwys pryderon a datgeliadau, yn ogystal â phwysigrwydd ymyrraeth gynnar ac atal. Bydd y cwrs hefyd yn eich dysgu chi am yr effaith y gall Llinellau Cyffuriau ei chael ar unigolyn, ei deulu a'i gymuned a pha gymorth sydd ar gael.

Deilliannau dysgu:

Ar ddiwedd y cwrs hwn, bydd dysgwyr yn gallu:

• Nodi beth yw Llinellau Cyffuriau, sut maen nhw’n gweithredu, a'r arwyddion sy'n gysylltiedig â nhw.
• Adnabod a diogelu'r rhai sydd mewn perygl o Linellau Cyffuriau.
• Penderfynu sut i gynorthwyo unrhyw unigolion sydd wedi'u heffeithio gan weithgaredd Llinellau Cyffuriau.
• Cydnabod yr effaith y gall Llinellau Cyffuriau ei chael ar unigolyn.

Cynulleidfa darged:

Mae'r sesiynau hyn wedi'u hanelu at ymarferwyr amlasiantaeth sy'n ymwneud â gwaith uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd.

Archebwch eich lle yma