Mwy o Glipiau Cyfryngau

Mae clipiau cyfryngau yn ffordd ddefnyddiol iawn o gyfleu gwybodaeth a negeseuon am ddiogelu. Yma fe welwch ystod eang o wybodaeth ar gyfer plant, pobl ifanc, oedolion mewn perygl, rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol, a gynhyrchwyd gan sefydliadau y tu allan i ranbarth Gwent.

Os ydych chi'n gwybod am glipiau cyfryngau defnyddiol ar ddiogelu a fyddai o fudd i bobl eraill eu gwylio, e-bostiwch y manylion i Uned Fusnes Diogelu Gwent.

Clipiau Cyfryngau’n ymwneud â Diogelu Plant

Clipiau i blant a phobl ifanc

Talk PANTS with Pantosaurus

Dewch i gwrdd â Pantosaurus - ein Dinosor sy'n gwisgo trôns! Mae am i bob plentyn gadw'n ddiogel ac yn gryf, yn union fel ef, ac mae'n mynd amdani i rannu neges bwysig [NSPCC 2017]

Gwylio clip Talk PANTS with Pantosaurus and his PANTS yma.

Teimlo dan bwysau

Gall perthnasoedd fod yn ddryslyd. Yn enwedig os ydych chi wir yn hoffi rhywun ond maen nhw'n gwneud pethau nad ydych chi'n gyfforddus â nhw. Felly meddyliwch am yr hyn sy'n teimlo'n iawn i chi. [Childline]

Gwyliwch y clip #ListenToYourSelfie - The Party yma.

Anfon Lluniau Noeth

Weithiau nid yw pobl yr ydych yn eu hystyried yn ffrindiau ar-lein bob amser yn dweud y gwir am bwy ydyn nhw. Os nad ydych chi'n siŵr gyda phwy rydych chi'n siarad, byddwch yn ofalus beth rydych chi'n ei rannu gyda nhw. Meddyliwch am yr hyn sy'n teimlo'n iawn i chi. [Childline]

Gwyliwch y clip #ListenToYourSelfie - The Game yma

Clipiau i weithwyr proffesiynol / rhieni a gofalwyr

Diogelwch ar y Rhyngrwyd

Mewn bywyd go iawn byddech chi'n amddiffyn eich plant, beth am eu hamddiffyn ar y rhyngrwyd - clip codi ymwybyddiaeth i rieni. [CEOP]

Gwyliwch glip Where’s Klaus yma.

Llinellau Sirol

Mae'r ffilm hon yn egluro beth yw Llinellau Sirol a sut mae'n effeithio ar bobl ifanc ledled y wlad [Prifysgol Greenwich a Heddlu Lewisham, Mai 2018]

Gwyliwch glip Beth yw Llinellau Sirol yma.

Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant

Clip i godi ymwybyddiaeth o safbwynt dioddefwr [Heddlu Gorllewin Swydd Efrog 2013]

Gwyliwch glip Adnabod yr Arwyddion – Stori Emma – Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant – Safbwynt Plentyn yma.

Clipiau Cyfryngau’n ymwneud â Diogelu Oedolion mewn Perygl

Celcio

Ffilm i godi ymwybyddiaeth o gelcio ac i arwain gweithwyr proffesiynol ar ba fathau o ymyriadau sy'n gweithio orau er mwyn i'r bobl yr effeithir arnynt gael y cymorth sydd ei angen arnynt. [Bwrdd Diogelu Oedolion Birmingham, 2016]

Gwyliwch Stori Keith: ffilm bersonol a theimladwy am gelcio yma.

Caniatâd

Mae ‘Tea and Consent’ yn glip i godi ymwybyddiaeth sy’n caniatáu i wylwyr ystyried y materion sy’n gysylltiedig â rhyw a chaniatâd - “Os ydych chi'n dal i gael trafferth gyda chaniatâd, dychmygwch yn hytrach na chaniatáu i ryw, eich bod yn gwneud paned o de iddynt”.

Gwyliwch y clip Tea and Consent yma.