Clipiau Cyfryngau Diogelu Gwent

Mae Diogelu Gwent wedi cynhyrchu amrywiaeth o glipiau cyfryngau fel rhan o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth neu fel arfau dysgu at ddibenion hyfforddi. Mae yna hefyd glipiau cyfryngau a ddarparwyd gan asiantaethau sy'n bartneriaid yn Rhanbarth Gwent.

Os ydych chi'n gwybod am glipiau cyfryngau diogelu defnyddiol a fyddai o fudd i bobl eraill wylio, e-bostiwch y manylion i Uned Fusnes Diogelu Gwent.

Cynghorir gwylwyr y clipiau hyn y byddant yn cynnwys cyfeiriadau at bynciau yn ymwneud â cham-drin ac esgeuluso. Ein bwriad yw portreadu iaith ac ymddygiad difrïol a niweidiol mewn modd credadwy yn y clipiau hyn, er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r materion hyn. Felly, gallai rhai pobl gael eu digio gan yr iaith y mae'r actorion yn ei defnyddio ond nid ein bwriad yw achosi gofid neu drallod.

Clipiau’n ymwneud â Diogelu Plant

Categorïau o Gam-drin

Clipiau cyfryngau ar y categorïau o gam-drin a gynhyrchwyd ar gyfer hyfforddiant:

Ymgyrch Thistle

Yn dilyn achos lleol o gam-fanteisio rhywiol yn 2011, comisiynodd 5 Bwrdd Lleol Diogelu Plant Gwent (sydd bellach wedi uno i greu un bwrdd diogelu rhanbarthol) y ffilm fer hon i godi ymwybyddiaeth ynghylch materion Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant (CSE). Dyluniwyd a chynhyrchwyd y ffilm gan bobl ifanc i bobl ifanc a chaiff ei defnyddio fel offeryn hyfforddi i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn y rhanbarth.

Gwyliwch glip Ymgyrch Thistle yma.

Cynhyrchiad Drama i Ysgolion ar Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant

Cynhyrchiad drama a gomisiynwyd gan y Bwrdd Diogelu Plant ym mhob un o ysgolion uwchradd y rhanbarth i ddisgyblion blwyddyn 8.

Gwyliwch yr Hysbyseb Its Not Ok yma.

Gwobrau Diogelu

Hysbyseb i blant gymryd rhan mewn unrhyw gystadleuaeth diogelwch ar draws y rhanbarth.

Gwyliwch glip Cystadleuaeth Gwobrau Diogelu Plant 2014 yma.

Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE)

Clipiau cyfryngau a gynhyrchwyd mewn partneriaeth â phobl ifanc i godi ymwybyddiaeth am Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE):

Cynhadledd Esgeuluso 2013

Clipiau cyfryngau’n gysylltiedig â’r Gynhadledd Esgeuluso a gynhaliwyd yn 2013

Clipiau’n Ymwneud â Diogelu Oedolion mewn Perygl

Clip cyfryngau i godi ymwybyddiaeth ar draws y rhanbarth ynghylch y testun Cam-drin Domestig

Categorïau o Gam-drin

Clipiau cyfryngau a gynhyrchwyd ar gyfer hyfforddiant ar y gwahanol gategorïau cam-drin:

Eiriolaeth

Clip codi ymwybyddiaeth a ariannwyd gan Bartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwent Fwyaf gyd-gynhyrchwyd gan Ddiogelu Gwent, Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) a DEWIS.

Gwyliwch y clip Beth yw eiriolaeth? yma.