Cylch Gorchwyl y Rhwydweithiau Diogelu Lleol

Diben

Bydd y grŵp yn sicrhau cysylltedd rhwng byrddau diogelu strategol a gwaith ymarferwyr rheng flaen. Bydd y grŵp yn hyrwyddo diwylliant o ddysgu amlasiantaethol a mwy o atebolrwydd am faterion diogelu yn ardaloedd yr awdurdodau lleol, gyda chymorth yr Uned Fusnes Diogelu Rhanbarthol.

Amcanion

  • Cyfrannu at flaenoriaethau strategol y byrddau diogelu.
  • Darparu fforwm ar gyfer amrywiaeth o reolwyr ac arweinwyr diogelu i sicrhau bod unrhyw faterion datblygiadol cyffredin yn yr ardal leol yn cael eu cyflwyno a'u trafod yn amlasiantaethol.
  • Lledaenu polisïau, canllawiau, protocolau a gwaith dysgu gan adolygiadau ymarfer allweddol sy'n ymwneud â diogelu ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
  • Darparu llwyfan ar gyfer ymgynghori ynghylch materion lleol a rhanbarthol.
  • Hwyluso cyfleoedd rhwydweithio ar gyfer gweithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr a grwpiau buddiant trwy ddigwyddiadau diogelu lleol.

Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy ymgymryd â'r tasgau allweddol canlynol:

  • Sicrhau cyfathrebu dwyffordd rhwng y grŵp a'r byrddau diogelu.
  • Cyfarfod bob dau fis.
  • Cynnal Fforwm Ymarferwyr Diogelu o leiaf ddwywaith y flwyddyn yn yr ardal.
    • Darparu cyfleoedd ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu, cyflwyniadau, trafodaethau a rhwydweithio.
  • Derbyn eitemau ar gyfer yr agenda a chymryd rhan mewn cyfarfodydd yn achos holl aelodau'r grŵp.
  • Aelodau'r grŵp yn sicrhau eu bod nhw'n cynrychioli eu hasiantaeth yn llwyr, ac yn rhoi adborth iddi.

Aelodaeth

Y cadeirydd fydd rheolwr y Gwasanaeth Diogelu ar gyfer yr awdurdod lleol.

Bydd is-gadeirydd y grŵp yn cael ei enwebu o asiantaeth wahanol.

Ymhlith aelodau'r grŵp fydd cynrychiolwyr o'r asiantaethau canlynol, ond heb eu cyfyngu i'r rhain:

  • Gwasanaethau Plant
  • Gwasanaethau Oedolion
  • Gwasanaethau Prawf
  • Cwmni Adsefydlu Cymunedol
  • Heddlu
  • Iechyd
  • Diogelu Addysg
  • Addysg
  • Gwasanaethau Ieuenctid
  • TVA / GAVO
  • Tai
  • VAWDASV / IDVA
  • Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid
  • Teuluoedd yn Gyntaf / Gwasanaethau Ataliol / Blynyddoedd Cynnar
  • Cefnogi Pobl
  • Comisiynu
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Swyddog Ymgysylltu
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl
  • Cysylltiadau â Diogelwch Cymunedol
  • Uned Diogelu Busnes Rhanbarthol
  • Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Gwent

Bydd Arweinydd Diogelu pob sefydliad yn cael ei wahodd, ond, gall yr aelodau newid yn dibynnu ar bwnc y Fforwm Ymarferwyr Diogelu Lleol sydd ar y gweill.

Atebolrwydd

Mae'n ofynnol i'r grŵp ddarparu adroddiad diweddaru blynyddol i Fwrdd Diogelu Plant De-ddwyrain Cymru a Bwrdd Diogelu Oedolion Gwent Gyfan.

Bydd yr adroddiad hwn yn llywio Adroddiadau Blynyddol Strategol y Byrddau.