Sylwi ar yr Arwyddion: Oedolion sy'n Dioddef Camfanteisio Hyfforddiant ymwybyddiaeth i weithwyr proffesiynol (12/05/2026)
Manylion y Cwrs
Dydd(au):12/05/2026 ( 09:00 – 12:00 )
Darperir y Cwrs:
Wyneb yn Wyneb - Lleoliad:The Hawthorn Suite, Floor C, Room 1 Mamhilad House, Mamhilad Park, Pontypool, NP4 0HZ
Hwyluswyd Gan:
Heddlu Gwent
Defnyddiwr gwasanaeth:
Oedolion
Cynulleidfa darged
Mae'r hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer pob ymarferydd amlasiantaeth – y rhai wedi'u cofrestru, wedi'u rheoleiddio neu mewn rolau gwirfoddol – sy'n dod i gysylltiad ag oedolion, plant neu aelodau o'r cyhoedd yn rheolaidd fel rhan o'u dyletswyddau.
Nod
Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o sut i adnabod arwyddion a dangosyddion achosion o gamfanteisio ar oedolion, a sut i ymateb mewn ffordd â ffocws, effeithiol ac sy'n canolbwyntio ar ddiogelu.
Amcanion yr hyfforddiant
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:
- Diffinio ystyr oedolyn agored i niwed, adnabod gwahanol fathau o fod yn agored i niwed, a deall sut mae'r rhain yn cynyddu'r tueddiad i fod yn destun camfanteisio.
- Deall y prosesau grŵmio sy'n gysylltiedig â chamfanteisio ar oedolion, gan gynnwys troseddau cyfeillio a chogio, a nodi sut mae'r dulliau hyn yn wahanol.
- Nodi y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu targedu a'r tactegau y mae troseddwyr yn eu defnyddio yn aml.
- Trafod yn feirniadol effaith camfanteisio ar unigolion – ar unwaith, yn y tymor byr ac yn y tymor hir.
- Cydnabod rolau a chyfrifoldebau o ran atal, nodi, lleihau ac amharu ar achosion o gamfanteisio mewn rhinwedd broffesiynol neu rinwedd wirfoddol.
- Nodi gwasanaethau cymorth lleol a gwybod sut i gyfeirio unigolion mewn ffordd briodol a diogel.
