Gweld heb ei weld: Deall cam-drin pobl hŷn, ac ymateb iddo - (30/06/2026)
Manylion y Cwrs
Microsoft Teams
Sawl cyflwynydd arbenigol
Oedolion
Cynulleidfa darged:
Mae'r weminar hon yn addas i bob ymarferydd amlasiantaethol sy'n ymwneud â diogelu oedolion, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol cofrestredig a rheoledig, staff rheng flaen, rheolwyr, comisiynwyr a gwirfoddolwyr sy'n gweithio ym meysydd statudol, gwirfoddol, cymunedol, iechyd, tai a lleoliadau gofal.
Trosolwg:
Gweld heb ei weld: Deall cam-drin pobl hŷn, ac ymateb iddo – Gweminar untro yw hon, wedi'i chynllunio i gryfhau ymwybyddiaeth, hyder ac ymarfer o ran nodi cam-drin sy'n effeithio ar oedolion hŷn, ac ymateb iddo. Mae cam-drin pobl hŷn yn gyffredin, ond, yn aml, mae'n cael ei guddio, ei leihau neu ei gamddeall. Nid yw llawer o bobl sy'n profi niwed byth yn datgelu hynny nac yn cael cymorth. Mae'r weminar hon yn dwyn ynghyd gyflwynwyr arbenigol ag arbenigedd ym meysydd diogelu pobl hŷn, trais rhywiol, galluedd meddyliol ac anghenion cymhleth sy'n cyd-ddigwydd, i archwilio pam mae'r math hwn o gam-drin heb ei weld, yn aml.
Nodau:
- Codi ymwybyddiaeth o'r rhwystrau mewnol, perthynol a systemig sy'n atal pobl hŷn rhag rhoi gwybod am niwed, gan gynnwys ofn, stigma, dibyniaeth, tuedd wybyddol ac ansicrwydd gweithwyr proffesiynol.
- Tynnu ar astudiaethau achos, ymchwil ac adolygiadau diogelu i amlinellu graddfa a mathau o gam-drin sy'n effeithio ar bobl hŷn, a'r cysylltiadau ag anghenion cymhleth fel dementia, salwch meddwl, eiddilwch, galluedd newidiol a rheolaeth drwy orfodaeth.
- Bydd y sesiwn yn herio mythau ynghylch trais rhywiol yn ddiweddarach mewn bywyd.
- O safbwynt y Ddeddf Galluedd Meddyliol, bydd ymarferwyr yn ystyried ymatebion diogelu cyfreithlon a chymesur pan fo galluedd yn benderfyniad-benodol, yn aneglur neu'n destun dadl, gan gynnwys pan fo unigolion yn gwrthod cymorth neu, o bosibl, yn destun dylanwad amhriodol.
- Yn gyffredinol, mae'r weminar yn ategu ymarfer diogelu cyfreithlon, amddiffynadwy ac sy'n canolbwyntio ar y person, gan hefyd godi ymwybyddiaeth o wasanaethau arbenigol sy'n galluogi ymatebion amlasiantaethol tosturiol, effeithiol.
