Deall yr archwiliad meddygol amddiffyn plant ( sesiwn amser cinio) - 12/01/2027
Course Details
MS Teams
Diogelu Gwent
Plant
Sesiwn ar ddeall y broses archwilio meddygol amddiffyn plant, rolau'r meddyg a'r staff iechyd cynorthwyol, disgwyliadau a chyfyngiadau'r archwiliad meddygol, a chyfathrebu canlyniadau a barn.
Dr Lizzy Nickerson a Dr Nicole McGrath, Meddygon Dynodedig Adran Amddiffyn Plant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae Dr Lizzy Nickerson a Dr Nicole McGrath yn Feddygon Dynodedig Adran Amddiffyn Plant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae gan Dr Nickerson brofiad ar lefel genedlaethol fel Meddyg Dynodedig ar gyfer Diogelu yng Nghymru, ac mae gan Dr McGrath brofiad sylweddol yn y Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) yng Nghaerdydd.
Ein nod yw gweithio ar y cyd ar draws asiantaethau partner i wella cyfathrebu rhyng-asiantaeth a dealltwriaeth o brosesau diogelu. Sesiwn ar ddeall y broses archwilio meddygol amddiffyn plant, rolau'r meddyg a'r staff iechyd cynorthwyol, disgwyliadau a chyfyngiadau'r archwiliad meddygol, a chyfathrebu canlyniadau a barn.
Mae'r sesiynau wedi'u hanelu at ymarferwyr amlasiantaeth sy’n rhan o’r broses o ofyn am archwiliad meddygol amddiffyn plant neu fod yn bresennol yn ystod yr archwiliad.
