Complex Neglect - Plant a Theuluoedd (12/10/2026)

Course Details

Date(s):12/10/2026  ( 10:0016:30 )
Delivery:

Wyneb yn Wyneb yn Foxes Lane, Blackwood

Facilitated By:

Safer Together

Service User:

Plant

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i ddatblygu dealltwriaeth ymarferwyr o esgeulustod cymhleth (lle mae plant a phobl ifanc yn agored i nifer o deipolegau esgeulustod). Bydd dysgwyr yn datblygu gwell dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n sail i esgeulustod a sgiliau i'w atal.

Cynulleidfa darged:
Ymarferwyr o sectorau statudol ac anstatudol sy'n gweithio mewn rolau sy'n wynebu'r cyhoedd gyda phlant, oedolion a theuluoedd, gan gynnwys dysgu o adolygiadau achos.

Deilliannau dysgu:

  • Deall yr amrywiaeth o deipolegau o esgeulustod gan gynnwys teipolegau nad ydyn nhw’n cael eu cydnabod a'u deall yn gyffredin megis trin plant fel rhieni, esgeulustod pobl ifanc ac esgeulustod mewn teuluoedd cyfoethog
  • Adnabod a deall effeithiau esgeulustod a'r effaith y mae esgeulustod yn ei gael ar lefel gymdeithasol
  • Deall y ffactorau sy'n effeithio ar ein gallu i adnabod esgeulustod
  • Datblygu dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n sail i esgeulustod a sgiliau i'w atal
  • Adnabod arwyddion a dangosyddion risg esgeulustod
  • Deall esgeulustod o safbwynt sy'n ystyriol o drawma
  • Rôl goruchwylio
  • Offer asesu 
Book your place here