AI ym Mywydau Plant a Phobl Ifanc: Hyrwyddo Diogelwch Digidol, Gwydnwch a Lles (25/02/2027)
Course Details
Ar-lein
Cyflwynir gan Dr Sangeet Bhullar, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr, WISE KIDS
Plant
Yn gynyddol, mae deallusrwydd artiffisial yn siapio’r safleoedd digidol lle y mae plant a phobl ifanc yn dysgu, yn cymdeithasu, yn creu, yn chwarae ac yn ceisio cymorth. Mae bellach wedi’i ymwreiddio mewn offerynnau chwilio, ffrydiau cyfryngau cymdeithasol, gweithgarwch creu delweddau a fideos, sgwrsfotiaid, cymorth gyda gwaith cartref, systemau argymhellion, gemau, apiau a phlatfformau ar-lein.
Mae AI yn cynnig cyfleoedd ar gyfer creadigrwydd, dysgu, hygyrchedd a hunanfynegiant, ond mae hefyd yn codi pryderon pwysig ynghylch diogelu, gan gynnwys ffugiadau dwfn, dynwarediadau, delweddau rhywiol a gynhyrchir gan AI, grŵmio, blacmel rhywiol, camwybodaeth, sgamiau, risgiau preifatrwydd, cynnwys niweidiol a chamdriniaeth ar-lein.
Mae’r sesiwn hanner diwrnod rhyngweithiol hon yn cynnig cyflwyniad â ffocws i lythrennedd AI, risgiau diogelu sy’n gysylltiedig ag AI, ac ymatebion ymarferol ac sy’n canolbwyntio ar y plentyn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.
Prif themâu
- Beth yw AI a pham bod llythrennedd AI yn bwysig ar gyfer arfer diogelu
- Sut y mae plant a phobl ifanc yn defnyddio ac yn dod ar draws AI yn barod
- Potensial cadarnhaol AI ar gyfer dysgu, creadigrwydd, hygyrchedd a chymorth
- Cynnwys a gaiff ei greu gan AI, gan gynnwys ffugiadau dwfn, cyfryngau synthetig a dynwarediadau
- Prif risgiau diogelu sy’n ymwneud ag AI, gan gynnwys camdriniaeth yn seiliedig ar ddelweddau, grŵmio, blacmel rhywiol, sgamiau, camwybodaeth, preifatrwydd a chynnwys niweidiol
- Sut y gall algorithmau a ffrydiau personoledig ddylanwadu ar yr hyn y bydd plant a phobl ifanc yn ei weld ar-lein
- Sgyrsiau ymarferol gyda phlant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr am AI a diogelwch ar-lein
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr:
- Yn deall y prif ffyrdd y mae AI yn siapio bywydau digidol plant a phobl ifanc
- Yn adnabod y cyfleoedd a’r heriau diogelu sy’n gysylltiedig ag AI
- Yn meithrin ymwybyddiaeth o brif risgiau sy’n ymwneud ag AI a’u perthnasedd i arfer diogelu
- Yn meithrin hyder i siarad gyda phlant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr am AI a diogelwch ar-lein mewn ffyrdd cytbwys, a hynny heb farnu
- Yn nodi dulliau atal ac ymyrraeth gynnar sy’n gallu cynorthwyo plant, pobl ifanc a theuluoedd
Adnoddau
Bydd pob cyfranogydd yn cael mynediad i Badled WISE KIDS pwrpasol gydag adnoddau amlgyfrwng cysylltiedig ac sy’n canolbwyntio ar AI, canllawiau a dolenni i’r we er mwyn cynorthwyo arfer proffesiynol a dysgu pellach.
