AI ym Mywydau Plant a Phobl Ifanc: Hyrwyddo Diogelwch Digidol, Diogelu, Gwydnwch a Lles (29/09/26)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):29/09/2026  ( 09:3016:30 )
Darperir y Cwrs:

Ar-lein

Hwyluswyd Gan:

Cyflwynir gan Dr Sangeet Bhullar, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr, Wise Kids

Defnyddiwr gwasanaeth:

Plant

Yn gynyddol, mae deallusrwydd artiffisial yn siapio’r safleoedd digidol lle y mae plant a phobl ifanc yn dysgu, yn cymdeithasu, yn creu, yn chwarae ac yn ceisio cymorth. Mae bellach wedi’i ymwreiddio mewn offerynnau chwilio, ffrydiau cyfryngau cymdeithasol, gweithgarwch creu delweddau a fideos, sgwrsfotiaid, cymorth gyda gwaith cartref, systemau argymhellion, hidlwyr, gemau, apiau a phlatfformau ar-lein.

Mae AI yn cynnig cyfleoedd ar gyfer creadigrwydd, dysgu, hygyrchedd a hunanfynegiant, ond mae hefyd yn codi pryderon arwyddocaol ynghylch diogelu, gan gynnwys ffugiadau dwfn, dynwarediadau, delweddau rhywiol a gynhyrchir gan AI, grŵmio, blacmel rhywiol, camwybodaeth, sgamiau, risgiau preifatrwydd, rhyngweithio gan sgwrsfotiaid sy’n manipiwleiddio, cynnwys niweidiol, camdriniaeth ar-lein a mwyhau naratifau niweidiol.

Mae’r sesiwn ryngweithiol hon dros ddiwrnod cyfan yn cynnig archwiliad dyfnach, ymarferol ac sy’n seiliedig ar waith ymchwil o lythrennedd AI, risgiau diogelu sy’n gysylltiedig ag AI, ac ymatebion proffesiynol ataliol ac sy’n ystyriol o drawma. Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn trafodaethau, astudiaethau achos, gweithgareddau myfyrio a dysgu sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd er mwyn cynorthwyo sgyrsiau mwy diogel ac arfer proffesiynol


Prif themâu

  • Beth yw AI, sut mae'n datblygu a pham bod llythrennedd AI yn bwysig ar gyfer diogelu
  • Sut mae plant a phobl ifanc yn defnyddio AI ar gyfer dysgu, creadigrwydd, hygyrchedd, cyfathrebu a chymorth 
  • Cynnwys a gaiff ei greu gan AI a chyfryngau synthetic, gan gynnwys ffugiadau dwfn, clonio lleisiau a dynwarediadau
  • Prif risqiau diogelu, gan gynnwys camdriniaeth yn seiliedig ar ddelweddau, grŵmio, blacmel rhywiol, sqamiau, camwybodaeth, preifatrwydd a chynnwys niweidiol
  • Sut y gall AI, algorithmau a ffrydiau personoledig fwyhau naratifau niweidiol, casineb ar-lein, misogynedd, hiliaeth a chynnwys rhywiol
  • Sut y gall AI a dylanwad ar-lein effeithio ar ymddiriedaeth, hunaniaeth, perthnasoedd, delwedd corff a lles
  • Ymatebion diogelu a sgyrsiau gyda phlant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr am AI a diogelwch ar-lein

Erbyn diwedd y rhaglen, bydd cyfranogwyr:

  • Yn deall sut y mae AI yn siapio bywydau digidol, perthnasoedd, dysgu, cyfathrebu a phrofiadau ar-lein plant a phobl ifanc
  • Yn adnabod y cyfleoedd y gall AI eu cynnig, ynghyd â’r peryglon diogelu y gallai eu creu, eu dwysáu neu ei gwneud yn anos i’w nodi
  • Yn meithrin hyder wrth ddeall risgiau sy’n ymwneud ag AI, gan gynnwys cyfryngau synthetig, dynwared, camdriniaeth yn seiliedig ar ddelwedd, grŵmio, blacmel rhywiol, camwybodaeth, pryderon preifatrwydd a chynnwys niweidiol
  • Yn ystyried sut y gall AI, algorithmau a ffrydiau personoledig ddylanwadu ar yr hyn y bydd plant a phobl ifanc yn ei weld, yn ei gredu, yn ei rannu ac yn ei normaleiddio ar-lein
  • Yn meithrin hyder wrth ddefnyddio dulliau cytbwys a heb farnu o siarad gyda phlant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr am AI a diogelwch ar-lein
  • Yn manteisio ar wybodaeth bresennol ynghylch diogelu wrth ystyried sefyllfaoedd sy’n ymwneud ag AI, gan ddefnyddio promptiau ymarferol ac adnoddau er mwyn cynorthwyo sgyrsiau mwy diogel, ymyrraeth gynnar, gweithgarwch atal ac arfer

Resources

Bydd pob cyfranogydd yn cael mynediad i Badled WISE KIDS pwrpasol gydag adnoddau amlgyfrwng cysylltiedig ac sy’n canolbwyntio ar AI, canllawiau a dolenni i’r we er mwyn cynorthwyo arfer proffesiynol a dysgu pellach.

Archebwch eich lle yma