Adeiladu Pobl Gwydn - Ymarfer sy'n Wybodus am Drawma ar gyfer Ymarferwyr Diogelu (29/04/2026)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):29/04/2026  ( 09:3016:30 )
Darperir y Cwrs:

Wyneb yn Wyneb - Ystrad Mynach

Hwyluswyd Gan:

J3MS Consulting

Defnyddiwr gwasanaeth:

Plant

Pam Mae'r Hyfforddiant Hwn yn Bwisig?

Mae unrhyw un sy'n cynorthwyo pobl eraill mewn perygl posibl o drawma dirprwyol ar ôl dod i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig, gan arwain at symptomau fel gorbryder, iselder, a phroblemau cwsg. Er efallai nad ydyn nhw'n profi trawma yn uniongyrchol, nid yn unig maen nhw'n dyst i'r trawma ond, hefyd, maen nhw'n cymryd rhan weithredol yn y broses o adrodd yr hanes. Dros amser, gall hyn arwain at effaith negyddol ar eu lles. Mae mynd i'r afael â hyn yn hanfodol drwy strategaethau hyfforddiant, cymorth a hunanofal sy'n ystyriol o drawma.

Beth yw Cynnwys y Sesiwn Bore?

  • Cyflwyniad i Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
  • Damcaniaeth ymlyniad
  • Niwroddatblygiad ac effaith trawma
  • Gwahanol fathau o straen
  • Sut i liniaru effaith negyddol trawma ac adfyd

Beth yw Cynnwys y Sesiwn Prynhawn?

  • Gwahanol fathau o drawma
  • Hunanofal
  • Sut mae gwahanol genedlaethau'n ymateb
  • Dull sy'n ystyriol o drawma
  • Cyfathrebu sy'n ystyriol o drawma
  • Datblygu sgiliau ymarferol
  • Hyfforddiant diwrnod llawn
  • Achrededig o ran Datblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Esboniad sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Beth yw Manteision Hyfforddiant sy'n Ystyriol o Drawma?

Mae deall effeithiau trawma yn hanfodol, gan y gall trawma effeithio'n andwyol ar gyfathrebu ac ymddygiad. Gall unigolion sy'n ystyriol o drawma wneud y canlynol:

Meithrin amgylchedd cefnogol

Meithrin ymddiriedaeth gyda chleientiaid sy'n ansicr o ran sôn am eu hanes

Osgoi aildrawmateiddio

Hwyluso gwella drwy ddefnyddio iaith barchus a chysylltu cleientiaid ag adnoddau

Diogelu eu lles eu hunain drwy gydnabod a rheoli gwahanol fathau o drawma y gallan nhw eu profi trwy eu gwaith

Mae'r hyfforddiant hwn yn gwella gofal i gleientiaid a'r rhai sy'n eu cynorthwyo nhw.

Archebwch eich lle yma