Wythnos Genedlaethol Diogelu

Mae Wythnos Diogelu Genedlaethol yn ddigwyddiad blynyddol sy’n cael ei gydlynu gan y pum Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yng Nghymru.  Mae’n amser a roddir i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelu pwysig, dysgu arfer gorau a rhannu gwybodaeth ymhlith y gweithlu Gofal Cymdeithasol a Phartneriaid.

Ochr yn ochr â hyn, mae Bwrdd Diogelu Gwent yn cyflwyno Fforymau Ymarferwyr Rhwydwaith Diogelu Lleol bob mis Mai sy’n codi ymwybyddiaeth o themâu diogelu/pynciau llosg sy’n dod i’r amlwg.

Tachwedd 2023

Mae Wythnos Genedlaethol Diogelu eleni yn cael ei chynnal rhwng 13 a 17 Tachwedd 2023.  Mae Wythnos Diogelu Genedlaethol yn ddigwyddiad blynyddol sy'n cael ei gydlynu gan y pum Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yng Nghymru.  Mae'n amser a roddir i godi ymwybyddiath o faterion diogelu pwysig, dysgu arfer gorau a rhannu gwybodaeth ymhilth y gweithlu Gofal Cymdeithasol a Phartneriaid.

Cliciwch Yma am y rhaglen lawn o ddigwyddiadau sy'n digwydd yn ystod Wythnos Genedlaethol Diogelu 2023

Mae Bwrdd Diogelu Gwent wedi trefnu dau ddigwyddiad Ymarferwyr Rhwydwaith Diogelu Lleol ar-lein ar gyfer Wythnos Genedlaethol Diogelu ym mis Tachwedd 2023. 

Theme: Yr Argyfwng Costau Byw A'r Effaith Ar Ddiogelu

Ceir rhagor o fanylion ar y rhaglen uchod.

Tachwedd 2022

Digwyddodd Wythnos Diogelu Genedlaethol eleni rhwng 14 a 18 Tachwedd 2022.

Roedd themâu Bwrdd Diogelu Gwent yn canolbwyntio ar “Ymateb i heriau diogelu cyfoes.” O’n gwaith gyda sefydliadau ac ymarferwyr, rydym yn dod yn gynyddol ymwybodol o nifer o ffynonellau newydd posibl o niwed. Fel eiriolwyr dros ddiogelu, rydym yn cydnabod ei fod yn bwysig ein bod yn parhau’n ymwybodol o sut allai amgylchiadau cyfnewidiol effeithio ar brofiadau pobl a’r perygl iddyn nhw o niwed a chamdriniaeth.

Rhoddodd y Rhaglen Ddiogelu rithwir gynnig amrywiol a oedd yn cynnwys sesiynau dysgu byw ar-lein, sgyrsiau byw, fideos wedi eu recordio o flaen llaw, a gweminarau, yn ogystal â dolenni defnyddiol ar adroddiadau ymchwil a oedd i gyd yn ceisio amlygu materion, hwyluso sgyrsiau a chodi ymwybyddiaeth o arfer gorau. Cynhaliodd Bwrdd Diogelu Gwent ddigwyddiadau trwy’r wythnos gyda chyflwyniadau:

  • Lorraine Griffiths, Rheolwr Lleoliad BAWSO
  • Kathy Jacobs, Rheolwr Prosiect a Betsan Evans, Dirprwy Rheolwr Tîm, Plant ar eu Pennau eu Hunain sy’n Ceisio Lloches (UASC)
  • Simon Howarth a Taliah Drayak, Aelodau Craidd, Rhwydwaith Rheini, Teuluoedd a Cynghreiriaid (PFAN) 
  • Sharron Wareham, Barnardo’s, Dyfodol Gwell Cymru
  • Cicelie Vobe, Cydlynydd Prosiect Mannau Diogel dros Gymru
  • Yr Athro Sally Holland, Cascade, Diwedd cosb gorfforol yng Nghymru (fideo wedi ei recordio)
  • Y Ditectif Arolygydd Jamie Cooper, Tîm POLIT, Heddlu Gwent
  • Babs Walsh, Cydlynydd Rhanbarthol, VAWDASV Gwent: ‘Cyflwyniad cryno i Gamdriniaeth Trwy Dechnoleg (TFA)'

Hoffem estyn diolch twymgalon i bob un o’r cyflwynwyr a gyfrannodd yn ystod wythnos diogelu, derbyniwyd y cyflwyniadau i gyd gyda diolch o’r mwyaf.

Tachwedd 2021

Cynhaliwyd Wythnos Genedlaethol Diogelu rhwng 15-19 Tachwedd 2021. Roedd thema Byrddau Diogelu Gwent yn canolbwyntio ar y thema ‘Gwersi a Ddysgwyd’. Dewiswyd y thema hon gan ein bod yn credu, trwy fabwysiadu ethos o ddysgu sefydliadol parhaus ac unigol, y byddwn yn helpu i feithrin diwylliant lle mae arferion a phrosesau diogelu yn cael eu hadolygu a’u gwella’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod Gwent wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau diogel, effeithiol a thosturiol. ar gyfer ei dinasyddion.

Darparodd y Rhaglen Ddiogelu rhithwir gynnig amrywiol a oedd yn cynnwys sesiynau dysgu ar-lein byw, sgyrsiau byw, fideos wedi'u recordio ymlaen llaw, a gweminarau, yn ogystal â dolenni defnyddiol i adroddiadau ymchwil i gyd wedi'u hanelu at dynnu sylw at faterion, hwyluso sgyrsiau a chodi ymwybyddiaeth o arfer gorau.

Cynhaliodd Bwrdd Diogelu Gwent Ddigwyddiad Rhanbarthol Rhithwir y Rhwydweithiau Diogelu Lleolgyda chyflwyniadau gan:

  • Cyfarwyddwr Trawsnewid a Newid Systemau ' Gwersi o'r pandemig'
  • Pennaeth Diogelu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 'Gwersi o Adolygiadau Ymarfer Oedolion'
  • Cyfarwyddwr yr Uned Atal Trais, Heddlu De Cymru ‘Atal Trais yng Nghymru’
  • Cyfarwyddwr Autside, ‘Awtistiaeth a Radicaleiddio’
  • Ditectif Arolygydd, Heddlu Gwent, ‘Operation Pinebank’
  • Rheolwr Tîm, Gwasanaeth Gwarcheidwaeth Masnachu mewn Plant Annibynnol Barnardo (ICTGS)
  • Uwch Reolwr Gwasanaethau Plant Casnewydd ‘Diweddariad cynllun peilot Mecanwaith Cyfeirio Cenedlaethol’

Tachwedd 2020

Ym mis Tachwedd 2020, er mwyn cydnabod yr achlysur, cynhaliom ni digwyddiad rhanbarthol ar-lein gyda chyflwyniadau byw gwahanol yn ogystal â sawl gweithdy llai trwy gydol yr wythnos gan ganolbwyntio ar y thema "Estyn Allan".

Gweler isod rhai dolenni defnyddiol i wahanol adnoddau a amlygwyd fel rhan o'r gweithgareddau hyn.