Gweithio gydag Esgeulustod (22/11/2024)

Manylion y Cwrs

Dydd(au):22/10/2024  ( 09:3015:00 )
Darperir y Cwrs:

MS Teams

Hwyluswyd Gan:

Diogelu Gwent

Defnyddiwr gwasanaeth:

Plant

Grŵp Targed

Ymarferwyr sy’n gweithio’n rheolaidd gyda phlant a theuluoedd lle gallai fod pryderon ynghylch esgeulustod. Anelir y cwrs hwn at aelodau o staff Grŵp C (Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol Diogelu 2023) yn bennaf. Serch hynny, anogir aelodau eraill o staff (gan gynnwys Grŵp B) i ymgeisio os ydynt yn teimlo y byddent yn elwa wrth wella’u gwybodaeth ac uwchsgilio mewn perthynas â’r pwnc hwn, ar yr amod eu bod wedi cael hyfforddiant Diogelu Gwent Lefel Grŵp B neu uwch.

Strwythur y Rhaglen Ddysgu

Mae yna ddwy elfen i’r Rhaglen Ddysgu hon:

Rhan Un – Cyflwyniad i weithio gydag Esgeulustod, a gyflwynir trwy SWAY (tua 1 awr i’w chwblhau). Ar ddiwedd yr elfen hon ceir gwiriad gwybodaeth sy’n fandadol, ac mae’n rhaid cwblhau’r gwiriad hwn yn foddhaol er mwyn cael mynediad at Ran Dau. Anfonir y rhan hon o’r rhaglen at ddysgwyr ymlaen llaw, i’w chwblhau yn eu hamser eu hunain, ond rhaid ei chwblhau cyn dyddiad y sesiwn wedi’i hwyluso (bydd y dyddiad cau yn yr e-bost sy’n dod gyda Rhan Un).

Rhan Dau – Gweithio gydag Esgeulustod – Heriau ac Offerynnau Ymarfer. Cyflwynir trwy sesiwn wedi’i hwyluso, ar-lein NEU wyneb yn wyneb (tua 4 awr). Cynlluniwyd y Rhaglen Ddysgu hon i weithio law yn llaw gydag adnodd Diogelu Gwent, Plant ac Oedolion sydd Mewn Perygl: Canllawiau a Phecyn Cymorth Esgeulustod (a’i defnyddio ar y cyd â’r adnodd hwn) (lle y bo ar gael)

Deilliannau’r Rhaglen Ddysgu:

Wedi cwblhau’r rhaglen ddysgu am esgeulustod, bydd dysgwyr:

 

  • Yn deall diffiniadau a thermau pwysig.
  • Yn deall effaith esgeulustod a’i ganlyniadau.
  • Yn gallu gwybod y gwahaniaeth rhwng elfennau rhianta a ffactorau eraill sy’n cyfrannu.
  • Â gwybodaeth well am yr arwyddion i chwilio amdanynt, a phlant sy’n arbennig o agored i niwed.
  • Â gwybodaeth well am ystod o faterion pwysig sy’n ymwneud ag ymarfer (gan gynnwys negeseuon ynghylch ymarfer sy’n dod i’r amlwg mewn Adolygiadau Ymarfer Plant).
  • Yn gallu dehongli deddfwriaeth a phrosesau allweddol ayb.
  • Wedi eu huwchsgilio mewn perthynas â chymhwyso/defnyddio offerynnau asesu
  • Yn deall arwyddocâd chwilfrydedd proffesiynol, ymarfer myfyriol ayb.
  • Yn magu mwy o hyder wrth ddelio ag achosion o esgeulustod ymhlith plant.

Rhagofynion

Cwblhau’r Hyfforddiant Diogelu Plant (neu raglen gywerth ar gyfer Grŵp B).

u Gwiriad Gwybodaeth Rhan Un er mwyn cael mynediad at Sesiwn wedi’i Hwyluso Rhan 2 (gweler y manylion uchod).

Archebwch eich lle yma