Diogelu Oedolion: Ymarferwyr Grŵp C (17/10/2024)
Manylion y Cwrs
Wyneb i wyneb Lleoliad: Conference Room D, Workforce Development, Ground Floor, Unit 3, Foxes Lane, Oakdale, NP12 4AB
Diogelu Gwent
Oedolion
Am Grwp C Dysgu
Cafodd Safonau Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol eu lansio yng Nghymru yn 2022. Nod y safonau yw cynorthwyo ymarferwyr i ddeall eu rôl a'u cyfrifoldebau nhw o ran diogelu, yn berthnasol i'r grŵp staff maen nhw ynddo.
Mae Cwrs Diogelu Gwent ar gyfer ymarferwyr sydd angen hyfforddiant Diogelu Oedolion cyffredinol Grŵp C. Ymarferwyr Grŵp C yw'r rhai sydd â chyfrifoldeb diogelu uniongyrchol:
- Sydd â rôl asesu sy’n gysylltiedig â’r broses ddiogelu a / neu
- sy'n gweithredu ar lefel lle gallant roi cyngor ar ddiogelu i'r rhai yng ngrŵp A a grŵp B a / neu
- sydd mewn lleoliad y maent yn gweithio ynddo neu'n ei reoli a / neu
- y maent yn treulio llawer o amser gyda nhw heb oruchwyliaeth a lle gallai pryderon diogelu godi
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer Person neu Bersonau Diogelu Dynodedig a'r rhai sy'n cymryd rhan mwy blaenllaw wrth wneud penderfyniadau o ran diogelu yn eu lleoliadau nhw, gan gynnwys pobl sy'n chwarae rhan weithredol mewn gweithgareddau cynllunio diogelwch.
Mae'n bosibl gall gweithredwyr Grŵp C gyfrannu at asesu, cynllunio, ymyrryd ac adolygu anghenion unigolion lle mae pryderon diogelu, neu gymryd rhan lawn yn y gwaith hwnnw.
DS: Mae hwn yn hyfforddiant diogelu cyffredinol grŵp C y dylai holl ymarferwyr i oedolion grŵp C ei gyflawni. Bydd hefyd angen hyfforddiant ychwanegol sy’n berthnasol i rôl a chyfrifoldebau penodol ymarferwyr ar ôl cwblhau hyfforddiant cyffredinol Grŵp C. Fel arfer, bydd hyn yn benodol i'r asiantaeth/rôl a'n ffurfio rhan o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus ymarferwyr.
Sylwch: Mae cwblhau gwiriad gwybodaeth yn orfodol, ar ôl cyrchu’r modiwl ar-lein sy’n ffurfio Rhan 1 y cwrs hwn. Bydd methu â chwblhau hyn y natal y cyfranogwr rhag mynychu’r Sesiwn wedi’I Hwyluso Rhan 2.
Canlyniadau Dysgu
I gael mynediad at hyfforddiant Grŵp C, rhagdybir eich bod chi eisoes wedi cyflawni hyfforddiant Grŵp A / B neu hyfforddiant cyfatebol.
Ar ddiwedd y gweithgaredd dysgu Grŵp C hwn, byddwch chi'n:
- Gallu cymhwyso deddfwriaeth, polisiau a chodau ymddygiad perthnasol I’w hymarfer o ddyd I ddydd a chynghori eraill ar y rhain.
- Gallu diogelu ac amddiffyn pobl ar sail y dystiolaeth sydd ar gael ar y pryd a chodi pryderon I’r lefel nesaf.
- Gallu myfyrio ar ffactorau, sefyllfaoedd a chamau gweithredu a all gyfrannu at gamdriniaeth niwed neu esgeulustod a darparu sail resymegol dros weithredu ac ymateb yn briodol I bryderon.
- Gwybod sut, pryd ac I bwy I hysbysu am wahanol fathau o gamdriniaeth, esgeulustod a niwed.
- Dilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru ac unrhyw broses gwneud penderfyniadau, rhanbarthol, a chynghori cydweithwyr eraill ar y rhain pan fo angen.
- Dilyn protocol y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol ar gyfer ‘datrys gwahaniaethau proffesiynol’
- Tystiolaethu bod llais y plenty neu oedolyn yn ganolog I benderfyniadau diogelu drwy gydol y broses ddiogelu.
- Gallu egluro rôl eiriolaeth.
- Deall eich rôl a’ch cyfrifoldebau chi, chyfrannu at fforymau a phrosesau diogelu perthnasol.
- Deall yr hyn a olygir gan ‘chwilfydedd proffesiynol’ ac atebolrwydd proffesiynol
- Deall egwyddorion goruchwyliaeth effeithiol a chefnogaeth cymheiriaid.
- Gwybod sut I gynghori a chefnogi eraill I ddiogelu pobl.
- Deall sut I weithio mewn partneriaeth mewn ffordd aml-asiantaeth, a bod yn glir ynghylch rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffessiynol eraill.
- Deal eich rôl a’ch cyfrifoldebau chi mewn perthynas a datblygu ymarfer a’ch datblygiad professiynol parhasu eich hun.